Sioe Deithiol EID Cyswllt Ffermio

gan Carys Thomas
Cyswllt Ffermio
Cyswllt Ffermio

Ble? Clwb Rygbi Llambed

Pryd? 12/02/2016, 10yb 4yp (Galw mewn)

Ydych chi’n chwilio am arweiniad ynglŷn â’r newidiadau diweddaraf i ddeddfwriaeth EID, a throsolwg o sut i gofnodi symudiad defaid ar lein?

Dewch i Sioe Deithiol EID Cyswllt Ffermio yng Nghlwb Rygbi Llambed dydd Gwener 12 Chwefror lle gallwch hefyd ddysgu sut i fanteisio ar botensial technoleg EID neu ymdrin ag unrhyw broblemau y gallech fod yn wynebu gyda’ch offer.

Galwch heibio’r Clwb Rygbi unrhyw bryd rhwng 10yb a 4yp i siarad gyda swyddogion y Gwasanaeth Cysylltwyr Fferm (Farm Liaison Service), cwmnïau EID neu gyda chynghorydd annibynnol Cyswllt Ffermio.

Er mwyn i’r swyddogion cael gwell dealltwriaeth o unrhyw broblemau technegol neu anawsterau rydych yn cael gyda’r cyfarpar, mae Cyswllt Ffermio yn argymell i chi ddod â’ch cyfarpar EID gyda chi i’r digwyddiad.

Gellir dod o hyd i fwy o wybodaeth am y manteision o ddefnyddio technoleg EID yn yr erthygl yma ar wefan Cyswllt Ffermio.

Am wybodaeth bellach ynglŷn â’r digwyddiad a gwasanaethau Cyswllt Ffermio yn yr ardal cysylltwch â Swyddog Datblygu Lleol De Ceredigion, Menna Williams, ar 07896 837725 neu menna.williams@menterabusnes.co.uk.