Sioe Gorsgoch a C.Ff.I. Llanwenog 2016

gan Cerys Lloyd

IMG_1179

Cynhaliwyd 36ain Sioe Amaethyddol, Cynnyrch, Ceffylau a Hen Beiriannau Gorsgoch a C.Ff.I. Llanwenog ar gaeau Glwydwern, Llanwnnen, trwy garedigrwydd Elfyn a Sharon Morgans ar ddydd Sadwrn, 20fed o Awst. Prif elusen y sioe eleni oedd Uned Niwroleg Ysbyty Morriston.

Ynghyd â’r cystadlaethau yn y babell ac ar y cae, cafwyd arddangosfa o gynnyrch alpaca gan ‘Bird Farm Alpacas’, paentio wynebau ac ocsiwn lwyddiannus iawn yng ngofal Eifion Morgans. Yna, cafwyd noson o adloniant gan Dave (‘Dai Karaoke’) Richards. Roedd hi’n noson llawn chwerthin a joio.

Er mawr foddhad i aelodau’r pwyllgor a chefnogwyr y sioe, ac er gwaetha’r rhagolygon tywydd am dywydd stormus, cafwyd ysbeidiau heulog a sioe lwyddiannus iawn o ran niferoedd a safon y cystadlu. Cyflwynwyd y gwobrau gan y Llywyddion, Mr a Mrs Daff Davies, Bwthyn, Brynteg, i’r canlynol:

CEFFYLAU: Ceffylau mewn llaw – Pencampwr – Eirian Thomas, Llysfaen (Llanwnnen Awel Mai). Is-bencampwr – Phillip Jones (Parc y Bedw Sparkling Diamond); Marchogaeth – Pencampwr – Rhiannon Evans (Beros St George). Is-bencampwr – Ela Harries, Plwmp (Briggy); Hynodion y Ceffylau – Ela Harris, Plwmp (Briggy); Pencampwr yr adran geffylau, ac yn derbyn cwpan Hang-On yn roddedig er cof am Tim a Dorothy Thomas, Ffynon Rhys – Eirian Thomas, Llysfaen, gyda Llanwnnen Awel Mai.

DEFAID: Defaid Llanwenog – Pencampwr – Huw Evans, Alltgoch. Is-bencampwr – Teulu Clettwr, Talgarreg. Gwobr Cymdeithas Defaid Llanwenog – Huw Evans, Alltgoch. Defaid Speckled – Pencampwr ac Is-bencampwr – Jones, Blaenblodau. Defaid Continental – Pencampwr – Huw a Bronwen Evans, Glantren Fach, Llanybydder. Is-bencampwr – Teulu Williams, Tynllyn. Unrhyw frîd “Lowland” arall – Pencampwr – Davies, Bwlchmawr. Is-bencampwr – Teulu Morgans, Glwydwern. Unrhyw frîd mynyddig arall – Pencampwr – Davies, Llwynfedw. Is-bencampwr – Crimes, Gafryw. Oen i’r cigydd – Pencampwr ac Is-bencampwr – John Jones, Penrheol, Cwmsychpant. Pencampwr y Pencampwyr yr adran ddefaid, ac yn ennill cwpan her Wyn Morgans, Glwydwern – Huw a Bronwen Evans, Glantren Fach, Llanybydder. Arddangosydd gorau – Jac Davies, No. 4 Rhydybont. Barnu Ŵyn Tew C.Ff.I – Beca Jenkins, Hafan y Cwm, Cwmsychpant.

HEN BEIRIANNAU: Pencampwr, ac yn ennill cwpan her Jim Evans, Fronwen – Peter Davies, Derwen Deg, Drefach.

GWARTHEG BÎFF: Pencampwr – Jones a Davies, Penhill, Penrhiwllan. Is-bencampwr – Morgans, Glwydwern, Llanwnnen.

GWARTHEG GODRO: Pencampwr – Andrew Davies, Abertegan, Brynteg. Is-bencampwr – Teulu Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd. Enillydd y fuwch neu treisiad odro orau o fuches di-linach, ac yn derbyn Cwpan Her Ffynnonrhys – Cennydd Jones, Rhydowen, Pontsian.

DOFEDNOD: Pencampwr – Paul Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd.

Y BABELL: Cynnyrch Gardd – Aeron Davies, Cribyn; Coginio – Gwyneth Morgans (Glwydwern gynt), Pensarnau; Gwinoedd – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd; Cyffaith – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd; Gwaith Llaw – Ceinwen Evans, Rhydsais, Talgarreg; Blodau – Andrew Davies, Llandysul; Cystadlaethau 18 oed neu iau – Carys Evans, Rhydsais, Talgarreg; Cystadlaethau 26 oed neu iau – Menna Williams, Gwynfryn, Alltyblacca; Adran Plant Ysgol Gynradd: Blwyddyn 6 neu iau – Meryl Evans, Rhydsais, Talgarreg; Blwyddyn 2 neu iau – Elis Jenkins, Ceulan, Maestir; Ysgol â’r marciau uchaf yn yr adran arlunio, ac yn ennill tarian her Cyngor Cymuned Llanwenog – Ysgol Llanwenog; Cwpan Her Blaencathal, am focs o gynnyrch gardd – Bessie Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd; Pencampwr y babell, ac yn ennill cwpan her Malcolm Fuller – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd.

Hoffai pwyllgor y sioe ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at groesawi pawb yn ôl i’r sioe y flwyddyn nesaf ar ddydd Sadwrn 19eg o Awst 2017.