Siopa Dolig a Siopa gyda’r hwyr yn nhref Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Noson Siopa Dolig Llanbed 2015
Noson Siopa Dolig Llanbed 2015

Bydd siopau tref Llanbedr Pont Steffan ar agor yn hwyr nos Iau yr 8fed o Ragfyr er mwyn rhoi’r cyfle i chi wneud eich siopa Nadolig yn lleol.

Cyngor Tref Llanbed sy’n trefnu’r noson ar y cyd â Siambr Fasnach y dref.  Bydd adloniant stryd ac ymweliad gan Sion Corn yn ogystal.

Ymhlith y diddanwyr bydd Côr Meibion Cwmann a’r Cylch ac ysgolion yr ardal.  Bydd y Stryd Fawr yn Llanbed ar gau i gerbydau rhwng 5 ac 8 o’r gloch yr hwyr er mwyn darparu lleoliad diogel i deuluoedd i fwynhau awyrgylch y Nadolig, crwydro o un siop i’r llall a mwyhau’r adloniant.

Bydd anrheg am ddim i bob plentyn gan Sion Corn a chroeso cynnes Cymreig i bawb yn y siopau unigryw.

Côr Cwmann yn diddanu ar y Stryd Fawr yn 2015
Côr Cwmann yn diddanu ar y Stryd Fawr yn 2015

Gwnaed ymdrech arbennig yn barod i addurno’r dref fechan.  Bu criw o wirfoddolwyr ar ran y Siambr Fasnach yn codi’r goleuadau Nadolig ac aelodau’r Ford Gron yn gosod coed Nadolig uwch y siopau.

Mae gan siopau Llanbed rywbeth at ddant pawb – o grefftiau i nwyddau trydanol ac o fwyd i flodau a dillad.

Wrth siopa yn lleol, rydych yn cyfrannu tuag lewyrch yr ardal hefyd.  Yn ol arbenigwyr, mae sawl rheswm dros siopa’n lleol: mae’n cynnal y gymuned, mae’n cryfau’r economi leol, mae’n creu amgylchedd iachach drwy leihau ol troed carbon, mae’n rhoi gwerth am arian ac yn rhoi gwaith i bobl leol.

Nos Iau amdani de!  Noson o ddiddanwch tymhorol i’r teulu cyfan a gwneud eich siopa Nadolig yn lleol.