Siopau newydd yn nhref Llanbed

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Agoriad Swyddogol Y Stiwdio Brint.  Llun: Tim Jones
Agoriad Swyddogol Y Stiwdio Brint. Llun: Tim Jones

Oes adfywiad wedi dechrau yn siopau bach tref Llanbedr Pont Steffan yn ddiweddar?

Braf gweld y Stiwdio Brint ger Sgwâr Harford a Salon Gem wedi agor yn y Stryd Fawr yn yr wythnosau diwethaf.  Mewn tref fach lle mae sawl siop wag, mae menter y bobl ifanc hyn yn dod â gobaith i’r economi lleol unwaith eto.

Bydd siop frechdanau Greggs yn agor yn y Stryd Fawr cyn hir hefyd yn hen siop Bargain Box lle’r oedd Behive Radio slawer dydd.  Mae hyd yn oed cwmni cenedlaethol fel hyn yn dangos hyder yn y dref felly.

Siop argraffu lluniau yw’r Stiwdio Brint yn bennaf, drws nesaf i’r Popty.  Fe’i rhedir gan Ashley a Sarah Ward.  Mae Ashley yn ffotograffydd ac yn tynnu lluniau priodasau ac yn gyn reolwr siopau Jessops.  Merch Alan Barbwr, Stryd y Bont, yw Sarah.

Gemma gyda'i thad a'i mam yn y siop newydd.
Gemma gyda’i thad a’i mam yn y siop newydd.

Mae ganddynt beiriannau arbenigol i argraffu lluniau o bob math a maint o luniau bach cyffredin i bosteri mawr a chanfasau.  Maent yn gwerthu fframau ac albymau hefyd.  Gallwch fynd â’ch camera neu’ch ffôn mewn i’r siop a throsglwyddo lluniau drwy wifren neu garden i’r peiriant argraffu.  Gallwch hyd yn oed fewngofnodi i facebook ac argraffu’n syth oddi yno.  Dyma wasanaeth gwerthfawr, cyfoes a gwahanol i bobl Llanbed.

Agorwyd y siop yn swyddogol ar ddydd Sadwrn, Ebrill 30ain. Y Maer Cyng. Chris Thomas a’r Faeres Janet Thomas oedd wedi torri’r rhuban, sef ffilm 35mm.   Y gwestai arbennig oedd Abz Love a Vicky Fellon o’r ‘boyband 5ive’ a oedd yn rhoi help llaw i’r perchnogion Ashley a Sarah gyda’r rhuban.

Gemma Thomas yn trin Gwallt yn ei siop newydd.
Gemma Thomas yn trin Gwallt yn ei siop newydd.

Mae gan Lanbed sawl siop trin gwallt a Gemma Thomas yw’r diweddaraf i fentro i fusnes harddwch yn y dref.  Merch Dylan a Margaret, Pont Creuddyn, yw Gemma a bu’n trin gwallt ar ei liwt ei hunan ers peth amser.

Lleolir ei Salon Gem ble’r oedd swyddfa’r Cambrian News yn y dref slawer dydd gyferbyn â Werndriw.  Mae’n werth gweld y lle.  Tu fewn mae’n fodern iawn gyda thema gyfoes du a gwyn.

Hyfforddwyd Gemma tra bu’n gweithio am 8 blynedd a hanner i gwmni trin gwallt adnabyddus yng ngorllewin Cymru.  Treuliodd 8 mis hefyd yn 2003 yn gweithio ar long mordaith.

Da iawn iddi hi ac i Ashley a Sarah am fentro.  Braf gweld pobl ifanc lleol yn buddsoddi yn nhref Llanbed.  Galwch mewn i’w gweld a’u cefnogi er mwyn sicrhau parhad i’r gymuned unigryw hon.