Steddfod o Safon yn Ysgol Bro Pedr

gan Edwina Rees

Cynhaliwyd steddfod flynyddol Ysgol Bro Pedr ar y 9fed a’r 10fed o Chwefror, 2016. Y beirniaid eleni oedd Gillian a Gwawr Jones, Meysydd, a braf oedd eu croesawu i’r ysgol. Yn ogystal â hyn, dyma eisteddfod gyntaf i Mrs Jane Wyn fel Pennaeth. Cafwyd eisteddfod safonol iawn gyda chystadlu brwd ar lafar, ar gân a thrwy ddrama. Cipiodd Dulas y wobr gyntaf ar y Grŵp Pop gyda’r gynulleidfa wrth eu bodd â’r cyflwyniad grymus o ‘Sebona Fi’. Yng nghanol y bwrlwm, bu Dulas eto’n llwyddiannus ar ennill y dawnsio agored.

Sbort a Sbri a brofwyd wrth i’r sgetsys ddiddanu’r gynulleidfa gyda Teifi yn fuddugol. Roedd yr athrawon yn cochi at eu clustiau wrth i’r disgyblion greu argraff o’u cymeriad. Yn yr ail safle oedd Creuddyn ac yn drydydd oedd Dulas. Roedd sŵn swynol yn dod o’r Neuadd wrth i gystadleuaeth y Parti Merched fynd rhagddi gyda thŷ Creuddyn yn cipio’r safle cyntaf.

Bu pawb yn falch wrth glywed Parti Bechgyn Teifi yn canu ‘Calon Lân’ ac roedd y disgyblion a’r Staff yn falch i fod yn Gymry ar ôl eu clywed.  Doniol oedd y gair i ddisgrifio cystadleuaeth y ‘Stori a Sain’ gyda Rhys Davies ac Iwan Evans yn dod i’r brig; am gystadleuaeth raenus! Roedd yn werth gwylio pob un!

Roedd pawb yn wên o glust i glust wrth i gystadleuaeth y meimio ddechrau ar y llwyfan. Yn y trydydd safle oedd Teifi, yn yr ail safle oedd Creuddyn ac yn cipio’r safle cyntaf oedd Dulas gyda’u hymweliad nhw â byd y sioeau cerdd. Am gystadleuaeth dda!

meim

Tri chôr gwahanol iawn a berfformiodd ‘Talu’r pris yn llawn’ ar y llwyfan, yn ôl y beirniad Gwawr Jones, wrth i Greuddyn gipio’r wobr gyntaf mewn cystadleuaeth heriol.

coron

Gosodwyd y thema ‘Escape’ gan feirniad y goron, Ms Ros Hudis. Enillwyd y goron eleni gan ddisgybl talentog o flwyddyn 12 sef Julianna Barker o dŷ Teifi. Pwnc y gadair eleni oedd ‘Llais’ neu ‘Lleisiau’ gyda Mrs Gillian Jones yn beirniadu. Enillwyd y gadair gan ddisgybl arall amryddawn sef Twm Ebbsworth o Dŷ Teifi. Hoffai’r ysgol ddiolch yn fawr i Mr a Mrs Gary Watkins am roi’r gadair brydferth er cof am eu merch, Siân ac i Mr Aled Dafis am ei waith cywrain yn creu’r gadair.

cadair

Cafwyd seremoni wobrwyo i ddosbarthu’r holl gwpanau a thariannau ar ddiwedd yr eisteddfod. Cafodd nifer o ddisgyblion eu gwobrwyo am eu llwyddiannau unigol ac o fewn grwpiau, ar y llwyfan ac am waith cartref.

capt steddfod

Ar ddiwedd diwrnod a hanner o gystadlu brwd, roedd pawb yn gyffrous ac yn barod i glywed y canlyniad terfynol sef pa dŷ oedd yn fuddugol. Yn y trydydd safle oedd tŷ Creuddyn gyda 449 o farciau, yn yr ail safle oedd tŷ Dulas gyda 524 o farciau ac yn fuddugol eleni oedd tŷ Teifi gyda 602 o farciau! Llongyfarchiadau i bawb! Diolch yn fawr i’r holl staff a fu’n cynorthwyo ac yn trefnu, i’r capteiniaid Hanna Medi Evans ac Alwyn Evans (Teifi), Caryl Jacob a Meirion Thomas (Dulas), Martha Dafydd a Rhys Davies (Creuddyn) a’r îs-gapteiniaid, Chloe Lewis a Callum Wilson (Teifi), Nest Jenkins a Liam Jones (Dulas) a Rebeca James a Morgan Lewis (Creuddyn) am eu gwaith diflino ac i bawb a fu’n cystadlu. Steddfod i’w chofio!

Adroddiad gan Elan Jones a Hanna Davies, 8 Dewi

Bydd mwy o luniau Eisteddfod Ysgol Bro Pedr yn rhifyn mis Mawrth Papur Bro Clonc.