“Doeddwn i erioed wedi clywed am yr hanesion hyn”, oedd ymateb un o’r cerddwyr dydd Sadwrn diwethaf, ar daith fer o amgylch Llanbed i Gymdeithas Edward Llwyd. Dyma grynodeb o’r daith ac ychydig o’r hanes a rennais gyda’r cwmni da ar hyd y ffordd.
Dechrau’r daith ar faes parcio Y Rookery lle oedd adar yn arfer nythu yn uchel ar goed Pisgwydden (Lime tree) cyn iddynt gael eu torri lawr. Cerdded drwy ran o Lambed a elwir yn Gors Ddu. Yn ôl hanes byddai pobl trefol Llanbed yn torri mawn yma, ond gyda thwf y dre cafodd y gors ei sychu. Ymhen blynyddoedd adeiladwyd yr hen fart anifeiliaid yno.
Cerdded heibio Cylch yr Orsedd (1984), a Chofgolofn Rhyfeloedd, am Heol y Gogledd. Gweld ar bwys y Clwb Rygbi hen adeiliad a fu yn Hufenfa ar ddechrau’r ganrif ddiwethaf. Prif dirfeddianwr Llanbed, sef Teulu Harfords Glyn Hebog, yn talu am adeiladu yr adeilad ac yn gwerthu cyfranddaliadau i’r ffermwyr a’r tenantiaid am £200. ‘Roedd disgwyl cael cyflenwad o ddau gan galwyn o laeth bob dydd i wneud y lle yn fuddiol. Dim yn siŵr am faint buodd y fenter o wneud menyn ymlaen, oherwydd erbyn 1911 rydym yn gwybod bod yr “Old Quarry Aereted Water Co” yn masnachu yno yn “botlo” dŵr a chwrw. Sefydlwyd y cwmni yn wreiddiol yn Quarry Cottage Pentre-bach ar gyrion y dre. Cawn hanes erbyn 1940 ei bod yn “botlo” cwrw Guinness, y cwrw yn dod lawr o ffatri Guinness, Park Royal Llundain, ar y trên mewn casgenni pumpdeg pump galwyn (hogshead).
Cerdded ymhellach am Heol y Wig a throi am y Goedwig Isaf a’r Goedwig Uchaf a chlec y dail dan ein esgidiau. Dod ar draws hen Gynelau Cŵn Hela Glyn Hebog, gerllaw hefyd mae Hen Dŷ’r Ciper ac Adardy Ffesantod. Rwyf yn tybio fod y Cynelau wedi eu hadeiladu yr un pryd â’r Plasdy, oherwydd yn y gweddillion gweld brics Afongoch Ruabon o adeiladwaeth y simne.
Gadael y goedwig a cherdded yn ôl am y dre, croesi’r briffordd a thros olion gwely sych Pinfarch oedd yn dyfyrio rhod-ddŵr gwaith coed Troed y Rhiw. Dŵr y Pinfarch yn cael ei arall gyfeirio o Nant Creuddyn ychydig yn uwch na phond “Wood”, ac erbyn hyn roeddem yn aroglu twrci Cegin Gareth.
Diolch i’r trideg pedwar a ddaeth o ranbarth y de sydd yn ymestyn o Fachynlleth i Dale Sir Benfro i Bont Hafren i gerdded a chymdeithasu dros ginio arbennig iawn gyda Gareth Richards.