Taith Elusennol Clwb Moduro Llanbed

gan Anthea C Jones
Y ceir ar y Rookery
Y ceir ar y Rookery

Fe wawriodd Mai 1af yn fwll gyda glaw mân a niwl. Ond wnaeth y tywydd ddim dorcalonni cefnogwyr Taith Geir Clasurol a Rali Clwb Moduro Llanbed!

Yn wir ymgasglodd dros 90 o geir ar Rookery Llanbed i gefnogi’r digwyddiad, a gafodd ei drefnu er cof am gyn Lywydd y Clwb, Greg Evans, a gollodd ei frwydr yn erbyn tiwmor ar yr ymennydd llynedd.
Daeth ceir o bob lliw a llun ynghyd, yn geir a faniau clasurol, yn geir rali pwerus a drud, a cheir mwy modern diddorol. Roedd y Rookery yn fwrlwm o bobl o bob cwr yn edmygu’r sioe o hen a newydd. Rhyfedd oedd gweld bod cymaint o ddiddordeb yn y ceffylau pedair olwyn gan yr hen ac ifanc!
Chwap wedi hanner dydd dechreuodd y neidr hir o geir ymlwybro ar eu taith ar hyd lonydd cul Ceredigion a Sir Gaerfyrddin. Yn un rhes hir teithiodd y cerbydau o Lanbed i Lanybydder, o Landeilo i Langadog, lan i Lyn Brianne am baned o de, cyn dychwelyd heibio Soar y Mynydd, i lawr i sgwâr Tregaron ac yn ôl i Lanbed yn ddiogel.
Roedd pawb wedi joio mas draw, ac yn barod am lymaid a chlonc i rannu profiadau.
Yn ystod y nos parhawyd gyda’r hwyl gyda chino a dawns yn Ffreutur y Coleg, ynghyd â raffl ac ocsiwn i werthu rhai o’r nwyddau godidog oedd wedi cael eu cyfrannu at yr achos gan aelodau’r clwb a busnesau lleol.
Yn wir roedd hi’n ddiwrnod perffaith i goffau dyn mor abennig. Does dim ffigwr terfynol eto gan fod arian dal yn llifo mewn, ond disgwylir i’r cyfanswm fod ymhell dros £5,500 erbyn y diwedd. Diolch i Islwyn Evans am yr holl drefniadau ac hefyd i Delun am ei chyfraniad hithau i lwyddiant y diwrnod.