gan
Nerys Morris
Daeth llawer o bêl-droedwyr ifanc nôl â medalau a thariannau gyda nhw’r penwythnos diwethaf. Fe gyrhaeddodd ddau dîm pêl-droed o dan 6 Llambed y feinal yn nhwrnament pêl-droed Bow Street dydd Sadwrn.
Wedi diwrnod cyfan o gystadlu gwych, yr oedd yn feinal gyffrous gyda’r bechgyn yn dangos eu sgiliau medrus. Aeth mewn i amser ychwenegol, a wedyn i’r rownd y “golden goal”.
Y tîm hŷn enillodd y gêm gyda’r tîm ifancaf yn dod yn runners up. Tipyn o gamp i ddau dîm lleol!
Yn ychwanegol, Joshua Morris o’r tîm hŷn enillodd y wobr ‘Chwaraewr y twrnament o dan 6’.
Da iawn i bawb. Roedd yna lawer o rieni balch iawn ar ddiwedd y dydd. Efallai y bydd rhai o’r wynebau hyn yn cystadlu yn yr Ewros rhywbryd!