Tîm dan 6 Llambed yn ennill Twrnament Pêl-droed Bow Street

gan Nerys Morris
Enillwyr - y tîm hŷn (Llinell dop), Runners up y Tîm ifancaf (eistedd ar y llawr)
Enillwyr – y tîm hŷn (llinell dop), Runners up y tîm ifancaf (eistedd ar y llawr)

Daeth llawer o bêl-droedwyr ifanc nôl â medalau a thariannau gyda nhw’r penwythnos diwethaf.  Fe gyrhaeddodd ddau dîm pêl-droed o dan 6 Llambed y feinal yn nhwrnament pêl-droed Bow Street dydd Sadwrn.

Wedi diwrnod cyfan o gystadlu gwych, yr oedd yn feinal gyffrous gyda’r bechgyn yn dangos eu sgiliau medrus.  Aeth mewn i amser ychwenegol, a wedyn i’r rownd y “golden goal”.

Chwaraewr y twrnament o dan 6
‘Chwaraewr y twrnament o dan 6’

Y tîm hŷn enillodd y gêm gyda’r tîm ifancaf yn dod yn runners up.  Tipyn o gamp i ddau dîm lleol!

Yn ychwanegol, Joshua Morris o’r tîm hŷn enillodd y wobr ‘Chwaraewr y twrnament o dan 6’.

Da iawn i bawb.  Roedd yna lawer o rieni balch iawn ar ddiwedd y dydd.  Efallai y bydd rhai o’r wynebau hyn yn cystadlu yn yr Ewros rhywbryd!