Trefn ffordd newydd yn Nrefach Llanwenog

gan Hazel Thomas

Cyfnod cIMG_1274yffrous yn hanes plwyfolion Llanwenog a Drefach wrth i ni weld yr Ysgol newydd yn datblygu yn y pentref. Wedi cyrraedd adre heno gyda’r goleuadau traffig wedi dod lawr a’r drefn ffordd newydd yn ei lle.

Roedd fy nhad, Aneurin Pen Pom Pren, wedi adeiladu arosfan bws flynyddoedd yn ôl ond bu rhaid i hynny ddod lawr i greu’r drefn ffordd newydd. Hapus iawn bod y gwaith o ail osod wedi ei wneud mor ardderchog. Byddai Aneurin yn siŵr o fod â thipyn i’w ddweud am hynny, a thybiaf pe byddai’n fyw byddai wedi aros allan gyda’r bechgyn yn sicrhau bod pob carreg wedi ei gosod yn gywir.

IMG_1272