Treialon Cŵn Defaid a Sioe Cwmsychpant 2016

Nia Wyn Davies
gan Nia Wyn Davies

Cynhaliwyd Treialon Cŵn Defaid a Sioe Flynyddol Cwmsychpant a’r Cylch ar gaeau Waun, Rhydowen ddydd Sadwrn, Awst y 13eg trwy garedigrwydd Mrs Ella a Mr Vernon Davies. 

Cafwyd diwrnod llwyddianus iawn ac eleni roedd yr elw yn mynd tuag at brynu peiriannau “Defibrillator” i Gwmsychpant a phentrefi cyfagos.  Codwyd swm sylweddol a fydd yn cael ei ddefnyddio i brynu’r peiriannau hyn a blychau pwrpasol i’w dal yn hwyrach yn y flwyddyn.

Dechreuodd diwrnod y sioe yn gynnar gyda’r treialon a bu’r cŵn defaid yn rhedeg o’r bore bach tan yr hwyr. Unwaith eto eleni roedd y babell yn orlawn o gynnyrch amrywiol ac roedd y cyfan o safon uchel. Cynhaliwyd mabolgampau i’r plant hefyd yn y bore ac mi wnaeth nifer helaeth ennill rhubanau. Cafwyd arddangosfa o hen beiriannau hefyd a oedd yn werth i’w gweld.

Llywydd y dyddEin Llywydd eleni oedd Mr Mark Evans, Llwynrhos, Rhuddlan a braf iawn oedd cael ei gwmni ef a’i deulu yn ystod y sioe. Cafwyd araith bwrpasol ganddo lle soniodd am lwyddiant Sioe Cwmsychpant dros y blynyddoedd a chyfraniad y gymuned leol tuag at y llwyddiant hwnnw. Mawr hefyd yw ein diolch iddo am ei rodd haelionus i’r coffrau.

Ar ddiwedd y prynhawn cynhaliwyd ein gwerthiant blynyddol llwyddiannus gyda Sion Jenkins a Dewi Jones wrth y llyw. Unwaith yn rhagor gwerthwyd amrywiaeth helaeth o bethau a gyfrannwyd gan gefnogwyr y sioe a chodwyd arian sylweddol i’r elusen.

IMG_0342I gloi’r diwrnod penigamp, cafwyd adloniant yng nghwmni’r grŵp lleol a phoblogaidd sef Newshan. Unwaith eto eleni cynhaliwyd sesiwn ganu i’r plant yn gyntaf ac yna cystadleuaeth “Taclo’r Tasgau”. Cystadleuaeth i dimau o bedwar aelod oedd “Taclo’r Tasgau” a gwelwyd chwech ar hugain o dimau yn rhoi tro ar daclo’r pedair tasg a roddwyd iddynt ar y noson. Cafwyd llawer o hwyl gyda’r babell dan ei sang yn gweiddi a chefnogi eu timoedd. Enillwyr y tasgau eleni oedd “Tîm y Pwyllgor”. Llongyfarchiadau mawr iddynt. Gorffennwyd y noson yng nghmwni Newshan a chafwyd canu da a dawnsio hyd oriau mân y bore.

Am restr llawn o ganlyniadau prynwch gopi o’r rhifyn nesaf o Clonc a fydd allan yn y siopau ar ddydd Iau, Medi 1af.

1 sylw

Sue Webb
Sue Webb

Great show used to live in Cwm,left over 2yrs ago in Cardiff now where I was born ,& near my son so all good.I do miss Cwm all my Welsh friends as well.Loved to look at the PIC s of the Cwm show, I can’t speak or read Welsh,but I can recognise some of the people in the pics great Thanks to Linda that sent them to me.xx

Mae’r sylwadau wedi cau.