Croesawyd 27 o ymwelwyr o efeilldref Llanbed i’r ardal dros y penwythnos a bu’r pwyllgor bach, disgyblion Ysgol Bro Pedr a theuluoedd yn eu diddanu.
Tref yn rhanbarth Maine-et-Loire, Ffrainc yw Saint Germain sur Moine. Sefydlwyd y cysylltiad yn 2001, a phwyllgorau yn y ddwy dref sy’n cydlynu gweithgareddau. Mae’r pwyllgorau gefeillio yn trefnu ymweliadau cyson er mwy cryfhau’r cysylltiadau. Roedd 2886 o drigolion yn Saint Germain sur Moine yn 2012, ac fe’i lleolir tua 20km o Cholet.
Cyrhaeddodd y Ffrancwyr ar brynhawn Sadwrn i dderbyniad dinesig yn Neuadd yr Eglwys lle cafwyd gair o groeso gan Faer y Dref, y Cyng Chris Thomas. Paratowyd bwyd yno iddynt gan y Cyng Dorothy Williams a hi fu’n gyfrifol am sawl pryd blasus iddynt yn ystod eu harosiad yn Llanbed. Roedd pawb wrth eu bodd wedyn yn cerdded rownd y dre a’r coleg. Treulwyd y noson gyntaf gyda’r teuluoedd.
Ar ddydd Sul aethpwyd i Aberystwyth lle cafwyd hwyl ar y siopa, hamddena yn yr haul braf o gwmpas y castell a chicio’r bar. Roedd pawb wedi mwynhau bod mewn lle mor ardderchog i grwydro a gweld y môr. Galwyd hefyd yn Aberaeron gan gerdded ar lan yr afon i’r dre. Cafwyd carferi yn y Castle Llanbed gyda’r hwyr a’r plant yn chwarae pŵl.
Dechreuwyd yn gynnar ddydd Llun gyda 15 disgybl o Ysgol Bro Pedr yn ymuno â ni i fynd i Gydweli. Arweiniodd Mr Deiniol Williams ni drwy’r porth ac wedyn i’r castell ysblennydd. Diolch i Mr Williams yn adrodd yr hanes mor fyw a diddorol i bawb. Cafwyd picnic hefyd yng Nghydweli.
Ymweliad â Mwyngloddiau Aur Dolaucothi oedd ar yr agenda yn y prynhawn lle rhyfeddwyd yr ymwelwyr a’r disgyblion gan hanes y Rhufeiniaid mewn teithiau cerdded o dan ddaear ac o gwmpas y safle.
Neuadd Fictoria Llanbed oedd y cyrchfan erbyn nos lle darparwyd y bwyd gan y Cyng Dorothy Williams unwaith eto. Tynnwyd y raffl fawr a werthwyd o flaen llaw i godi arian er mwyn cynnal y teithiau cyfnewyd hyn a’r holl weithgareddau.
Gan fod tipyn o blant ymhlith yr ymwelwyr y tro hwn, croesawyd hwy i Ysgol Bro Pedr ar fore Mawrth. Cafwyd gair o groeso yng ngwasanaeth y sector iau a threuliwyd gweddill yr amser mewn gwersi yn y sector hŷn. Hoffai’r pwyllgor ddiolch yn fawr am bob cydweithrediad staff a disgyblion yr ysgol gan wneud profiad y plant ymhlith yr ymwelwyr yn un cofiadwy iawn.
Y Cyng Kistiah Ramaya yw Cadeirydd y pwyllgor Gefeillio ac ef oedd yn gyfrifol am y trefniadau y tro hwn, gyda chymorth ei wraig Carol. Tro pobl Llanbed fydd hi nesaf i ymweld â Saint Germain sur Moine. Estynnir croeso cynnes i aelodau newydd i ymuno â’r pwyllgor er mwyn parhau â’r cynllun gefeillio hyfryd hwn.