Yr Heddlu’n dal lladron wrth eu gwaith

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Drws Siop Troedrhiw
Drws Siop Troedrhiw

Torrwyd i mewn i siop Garej Troedriw Llanbed nos Sadwrn tua 11.30 o’r gloch.  Roedd y lladron a dybir yn dod o Loegr, yn ceisio dwyn sigarennau.

Ond gwelodd un o berchnogion D D Evans a’i Feibion fod symudiad yn y siop a oedd i fod ar gau, a galwodd yr heddlu.  Roedd yr heddlu eisoes wedi stopio car dieithr ar Ffordd y Gogledd, ac wrth ymateb i’r alwad brys fe ddaliwyd y lladron.

Roeddynt wedi bagio’r holl sigarennau yn barod i’w cario i’r car deithr.  Yn ôl yr hyn a dybir, roedd y rhain yn lladron proffesiynol ac o bosib wedi bod yn lladrata mewn ardaloedd gwahanol dros gyfnod o amser.

Ffenestr Crown Stores
Ffenestr Crown Stores

Cafwyd mynediad i siop y garej drwy dorri ffenestr isaf y brif ddrws.  Ar y nos Wener, torrwyd ffenestr flaen siop groser Crown Stores ar Stryd Fawr, Llanbed mewn ymgais bosibl i ladrata.  Ond ni lwyddwyd.  Does dim cadarnhad bod unrhyw gyswllt rhwng y ddau ddigwyddiad.

Yn y cyfamser, mae digwyddiadau lleol fel hyn yn atgoffa pawb i fod yn wyliadwrus.  Rhaid cadw llygaid mas am ymddygiad amheus a chloi popeth gwerthfawr.  Mae’n dawelwch meddwl i lawer y daliwyd y lladron y tro hwn.

Os oes gan unrhyw un wybodaeth am unrhyw ddigwyddiad fel yr uchod i gysylltu â Heddlu Llanbed ar 101.