Ymddangosodd Arweinlyfr newydd tref Llanbed yn ddiweddar. Siambr Fasnach Tref Llanbed sydd tu ôl iddo, gydag is-bwyllgor gwirfoddol o bump yn cydlynu’r cynnwys at ei gilydd a rhedeg y prosiect gyda chefnogaeth y Siambr.
Aelodau’r is bwyllgor yw Gary Thorogood (cadeirydd ar y pryd), Gareth Harries (cadeirydd presennol), Tina Morris (ysgrifenyddes), Sarah Ward, a Meleri Morgan.
Gwybodaeth allweddol i ymwelwyr i’r dref (fel lleoliad toiledau, arosfannau bysys a meysydd parcio) sydd ynddo yn benodol ymysg gwybodaeth am yr amryw o bethau sydd ar gael yn y dref i’w diddanu. I bobl leol mae cynnwys rhifau ffôn busnesau canol y dref yn ddefnyddiol, ac mae gobaith hefyd bod darllen yr erthyglau am asedau’r dref a’r fro yn mynd i annog bobl i werthfawrogi a defnyddio’r cyfleusterau gwych sydd ar gael yma.
Yr is-bwyllgor oedd yn gwahodd pobl allweddol ym myd Llanbed (o ran cyfleusterau busnes neu dwristiaeth) i ysgrifennu erthyglau, a hefyd ni oedd yn casglu gwybodaeth cyswllt yr holl fusnesau yng nghanol y dref. Es i ati i ddylunio a chreu’r mapiau sydd wedi eu cynnwys, a hefyd dylunio edrychiad yr holl arweinlyfr a’i gosod allan. Nid dylunydd graffeg ydw i, ond mae’r gwaith wedi bod yn help i gyflawni un o brif nodau’r siambr – o greu arweinlyfr cyfoes a chynhwysfawr.
Estynnwyd cyfle i aelodau’r Siambr Fasnach i brynu gofod hysbysebu yn yr arweinlyfr, ac fe wnaeth hyn alluogi i 10,000 o gopïau cael eu hargraffu. Mae’r arweinlyfr wedi ei gydlynu a’i ddylunio yn hollol wirfoddol, ac wedi ei dosbarthu o amgylch siopau a busnesau’r dref, y llyfrgell a’r Brifysgol i’w gasglu am ddim.
Os oes busnesau ar gyrion y dref a hoffai gopïau i darparu i’w cwsmeriaid (yn enwedig atyniadau twristiaeth, Gwely a Brecwast a.y.y.b), croeso iddyn nhw gysylltu ag ysgrifenyddes y Siambr Fasnach i ofyn am bwndel i’w dosbarthu.