Blodyn o Benffordd ar restr fer ‘Planhigyn y Flwyddyn’

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Mae blodyn sydd wedi cael ei ddatblygu ym Mhenffordd ger Cwmsychbant wedi cael ei enwebu ar gyfer gwobr ‘Planhigyn y Flwyddyn’ yn Sioe Flodau Chelsea yr wythnos nesaf.

Enw’r planhigyn ydy Cloud nine ac mae’n fath o Geranium pratense wedi’i ddatblygu gan Helen Warrington o blanhigfa Tŷ Cwm.

“Mae cael ein henwi ar y rhestr fer a chyrraedd Sioe Flodau Chelsea yn gwbl arbennig inni,” meddai Helen Warrington.

“Dim ond planhigfa fechan ydyn ni, felly mae hyn yn eithaf rhyfeddol.”

Beth sy’n arbennig am y blodyn?

O ran pryd a gwedd, esboniodd Helen Warrington fod y blodyn glas ei liw yn eithaf tebyg i rosyn bychan.

Mae’n gallu tyfu i uchder o hyd at 80cm gyda’r blodau’n mesur rhwng 2-3cm o ran diamedr.

Fe fydd yn blodeuo rhwng mis Mai a mis Medi ac yn ailymddangos blwyddyn ar ôl blwyddyn.

“Mae hyn yn bwysig imi achos dw i eisiau i bobol cael planhigyn na fydd yn diflannu ar ôl iddyn nhw ei blannu, gan ddod yn ôl yn gryfach ac yn bertach bob tymor,” meddai Helen Warrington.

Dywedodd ei fod yn medru ymdopi mewn tymheredd o hyd at -20C ac yn gallu gwrthsefyll gwlithod a chwningod.

“Mae’n blanhigyn gwydn ac eithriadol o hardd. Wrth gerdded heibio iddo, mae’n dal eich llygad a chi’n meddwl “Waw, beth yw hwnna?”

Y gystadleuaeth

Mae 20 o blanhigion wedi cael eu henwebu ar gyfer y rhestr fer ‘Planhigyn y Flwyddyn’ yn Sioe Flodau Chelsea sy’n dechrau’r wythnos nesaf.

Esboniodd Helen Warrington ei bod wedi cydweithio â masnachwyr o ogledd Cymru, Seiont, a chwmni o Galiffornia, Planthaven, i ddatblygu, cyflwyno a threialu’r blodyn.

Ac mae Helen yn croesi’i bysedd am ganlyniad da i’r Geranium pratense ‘Cloud nine’ fydd yn cael ei feirniadu ddydd Llun, Mai 22.