Carnifal Llanbed 2017

gan Carnifal LLanbed

Pan ddeffrois i am 6 o’r gloch bore Sadwrn y 5ed o Awst a chlywed y glaw a’r tyrfe, o’n i’n meddwl dim carnifal heddi – ond yn wir, erbyn cyrhaeddodd y criw o helpwyr am hanner awr wedi wyth, roedd pethe yn gwella.

Roedd y criw brwdfrydig o helpwyr yn llawn hyder am ddiwrnod da, ac roedd y stondinau yn cyrraedd yn barod ar gyfer diwrnod hwyliog. Erbyn i gerbyd y Frenhines Carnifal gyrraedd yr ysgol uwchradd ar gyfer dechrau’r orymdaith trwy’r dref roedd yr haul yn disgleirio. Y frenhines eleni oedd Connie Strain a’i Morwynion oedd Darcey Lambert a Keeley Barrett, y Gweision oedd Jeston Allan a Kieran Mathews. Roeddent i gyd yn edrych mlaen at y daith trwy’r dref, ac yn edrych yn bert iawn.

Cyrhaeddodd y frigâd dân a’r heddlu i hebrwng yr orymdaith trwy’r dref. Daeth Ivor Williams a’i gorn siarad a’r cart tu ôl iddo’n dal dau o gymeriadau Paw Patrol, roedd y plant i gyd yn gweiddi arnynt a cheisio cael eu lluniau gyda nhw. Gadael yr ysgol am 12.30 a’r orymdaith trwy’r dre a’r dorf o bobol yn disgwyl y fflots ar hyd y strydoedd. Braf gweld y Maer a’r Faeres yn cerdded yn yr orymdaith hefyd. Roedd y dorf yn eu dilyn i’r Clwb Rygbi lle roedd rhagor yn disgwyl yr orymdaith i gyrraedd.

Tra roedd y Maer Hag Harris a’r Faeres Eiry Morgan yn coroni’r frenhines a gwneud eu anerchiad, roedd y ddau feirniad, Jo Conti a Ben Lake, yn dyfarnu y fflots.  Ar ôl cerdded nôl a mlaen a chyn rhoi eu dyfarniad gwnaeth Ben Lake araith ac agor y Carnifal. Roedd prynhawn prysur o’u blaenau yn dyfarnu yr holl wisgoedd.

Fflot wedi’i addurno: 1. Hafan Deg, 2. Lab CO, 3. Panacea-Parlwr pinco.

Gwisg Ffansi Orau: Merch o dan 2. 1. Ffion Davies

Bachgen o dan 2: 1. Ellis Hopkins, 2. Jayden Gilbert, 3. Noah Hunter

Merched 2-4: 1. Celyn Jones

Bechgyn 2-4: 1. Osian Morgan, 2. Joey Hunter, 3. Carlson Jones

Merched 5-7: 1. Tia Gilbert, 2. Lily Evans, 3. Llian- Haf

Bechgyn 5-7: 1. Cydradd ,Lyndon Gale a Llyr Jones

Merched 8-11: 1. Cydradd ,Seren Ling a Elan Jones

Bechgyn 8-11: 1. Ronnie Evans, 2. Steffan Davies, 3. Cydradd, Callum Methuen a Brynmor Gibbons

Pâr 11 a thano: 1. Catrin Davies a Ellis Hopkins, 2. Tia a Jayden Gilbert, 3. Ronnie Evans a Seren Ling.

Merched 12-15: 1. Carys Davies

Menyw 16-18: 1. Cydradd, Manon Williams a Elan Jones

Pâr 12- 18: 1 Manon Williams  a Elan Jones

Agored dros 18: 1. Anthea Jones, 2. Leah Rees, 3. Dilys Megicks

Pâr dros 18: 1. Leah Rees a Danielle, 2. Barbara White a Jane Mellors, 3. Cydradd, Kelly James, Catrina Evans, Kelly Morgan, Alaw Williams.

Prif Enillydd:  Osian Morgan fel Rocket Man

Yn dilyn y Carnifal tynnwyd y Raffl fawr – diolch i bawb a werthodd ac a brynodd, ac a roddodd wobrau i’r raffl er mwyn ein galluogi i brynu pethau newydd i’r carnifal.

Wedyn trosglwyddyd yr awenau i staff Ysgol Bro Pedr i redeg y mabolgampau a diolch yn fawr iddynt am wneud hyn bob blwyddyn. Roedd cystadlu brwd yn y rasus rhedeg, wy a llwy, sach a ras tair coes.

Fel arfer mae taflu welinton yn cael ei redeg gan griw’r carnifal ond ers i Gwpan Coffa Dai Phillips ddod i’n dwylo llynedd mae teulu Dai sef Glenda, Glyn, Marc a Leanne wedi cymeryd yr awenau ac mae’r ymateb i’r galw wedi bod yn eithriadol. Bu cystadlu brwd eleni eto, a Lee yn ennill y cwpan.

Eleni am y tro cyntaf roedd plac coffa Glyn Davies i enillydd y Tug of War, roedd cystadlu brwd rhwng pump tîm a’r merched oedd pia hi eleni – tîm Elinor Hopkins, Angharad Williams, Angharad Morgan, Carys Wilkins, Hayley Evans a rhai eraill.

Wedi hyn daeth y diwrnod i ben, ond cawson ‘fly past’ gan y Red Arrows am hanner awr wedi 6 ar eu ffordd i Gaerdydd.

Diolch i pawb fu’n helpu yn yr wythnosau yn arwain at y carnifal, ar ddiwrnod y carnifal a’r stondinwyr am eu cefnogaeth. Diolch hefyd i bawb a ddaeth i’r carnifal ac a gyfrannodd at lwyddiant y diwrnod.