Ar brynhawn Sadwrn, 24ydd o Fehefin fe wnaeth Pwyllgor Pentref Llanybydder drefnu Carnifal blynyddol Llanybydder yn y cae rygbi.
Y Frenhines oedd Nia Davies, Morwynion oedd Adele Rees ac Sara Davies, Tylwyth Teg oedd Lily Mumford a’r Tywysog oedd Taylor Rees. Yr oedd pawb yn edrych yn brydferth iawn a chafwyd diwrnod hyfryd.
Llywyddion y dydd oedd Mr Eryl Jones a Miss Eleri Davies a chafon nhw ddiwrnod hwylus tu hwnt yn beirniadu’r cystadlaethau.
Yr oedd yna 3 fflôt arbennig o dda ar y thema ‘Cymru’. Aeth y wobr gyntaf i Tipi Valley, ail i Mart Evans Bros a’r trydydd i Stereophonics.
Enillwyr y Carnifal yr oedd y canlynol: Pâr Gorau – 1af Jac y Jwc a Sali Mali, 2il Cawl a Chân sef Gari a Nia Jones, a 3ydd Tony ac Aloma sef Betty Draycott ac Helen Draycott Evendon. O Dan 2 mlwydd oed: 1af Dylan Thomas sef Sophie Benson, ail yr oedd Tecwyn y Tractor sef Cadi Ann Cope a 3ydd yr oedd Eisteddfod sef Betsan Lloyd.
3-5 mlwydd oed: 1af y Welsh Whisperer sef Owain Dyer, yn ail yr oedd Hybu Cig Cymraeg sef Prys Jones a 3ydd Shirley Bassey.
6-10 mlwydd oed yr oedd Barti Ddu sef Dion Jacobs yn 1af, Kelly Jones o Stereophonics yn ail sef Caio Benson, a’r Ddraig Goch sef Amy Rees yn 3ydd.
11-15 mlwydd oed – 1af Gareth Davies sef Jamie Jones, 2ail Catherine Zeta Jones sef Mili Bonning a 3ydd yr oedd Mam Tomi sef Elain Williams.
16+: 1af Nessa sef Katy Baker, Catherine Jenkins sef Helen Draycott Evendon a 3ydd Cawl Cymreig sef Gary Jones.
Cerbyd Gorau: 1af Tecwyn y Tractor sef Cadi Ann Cope, 2il Barti Ddu sef Dion Jacob a 3ydd oedd lori Mansel Davies sef Owain Dyer.
Gaeth cwpan enillydd y Carnifal am 2017 ei rhoi gan Bethan Williams eleni, a’r enilydd oedd Gareth Davies sef Jamie Jones. Rhoddwyd sash y ‘Carnifal Hunk’ i Dave Doughty a’r ‘Glamorous Granny’ i Bethan Williams.
Llongyfarchiadau i bawb am eu hymdrech, yr oedd yn ddiwrnod llwyddianus iawn gyda’r tywydd ar ein hochor ac yn dal yn sych.
Hoffai Pwyllgor Pentref Llanybydder ddiolch i bawb a wnaeth gymryd rhan ac i bawb a ddaeth i gefnogi’r Carnifal. Heb eu cefnogwyr byddai’r Pwyllgor yn methu trefnu’r holl ddigwyddiadau i’r pentref, yn enwedig y trip blynyddol. Diolch eto.