‘Siân Gwili’ yn taflu trem yn ôl ar y degawdau a fu…
Mae’n saith deg mlynedd ers i gwmni peirianyddol Gwili Jones gael ei sefydlu yn 1947 ac, yn ôl Siân Davies, “mae rhywbeth unigryw am fusnesau teuluol.”
Fe fydd y cwmni, sydd â dwy gangen yn Llanbed ac ym Mheniel yn Sir Gâr, yn cynnal taith tractorau drwy’r ardal ddydd Sul (Medi 24) i ddathlu’r achlysur.
Ac wrth edrych yn ôl ar y degawdau a fu, mae Siân yn rhyfeddu at sut mae’r ffordd o fasnachu ynghyd â’r peiriannau “wedi newid yn llwyr.”
“Mae technoleg wedi dod â’r byd at ein desg, ac ry’n ni’n cynnig peiriannau sydd mewn byd hollol newydd. Pe bai Gwili’n fyw byddai’n synnu at sut mae pethau wedi datblygu.”
Cwmni teuluol
Yn ei swyddfa yn Llanbed, mae Siân wrthi’n rhoi trefn ar fanylion munud olaf y daith tractorau, yn pori drwy hen luniau o’r cwmni ac yn ateb y ffôn sy’n prysur ganu.
“Mae’n gyfle i hel atgofion,” meddai am y digwyddiad gan esbonio eu bod am ddenu tractorau o bob cyfnod dros y degawdau a fu.
Ac mae’r ddynes fusnes yn ymfalchïo fod y cwmni teuluol yn cyflogi ugain o staff ag arbenigedd yn y ddwy gangen.
“Mae rhywbeth arbennig am fusnesau teuluol. Mae’n cynnig rhyw agosatrwydd i chi ac mae’n gyfle i ddod i adnabod eich cwsmeriaid fel ffrindiau.”
Dechreuodd y cwmni yn 1947 ar fferm ei theulu yn Hafod Peniel a hynny oherwydd diddordeb ei thad, Gwili Jones, mewn peiriannau.
“Tyddyn oedd gennym ni ac mi gafodd Dad flas ar atgyweirio hen dractor a’i werthu ymlaen gan wneud bach o arian i ategu at incwm y fferm,” meddai.
Yn y blynyddoedd wedyn fe dyfodd y cwmni wrth i lawer o ffermwyr brynu tractor am y tro cyntaf, ac erbyn yr 1960au a’r 1970au roedd y cwmni’n allforio i wledydd Ewrop, Canada, America a’r Dwyrain Pell.
“Mae wedi bod yn fusnes teuluol erioed, a dw i’n cofio rhedeg rhwng y tŷ â’r sied waelod gyda negeseuon i Dad, a Mam yn gorfod clirio’r papurau o’r ford inni gael swper. Fel pob busnes teuluol, mae pawb yn gwneud ei ran.”
Y genhedlaeth nesaf
Ymunodd Siân a’i gŵr Nigel â’r cwmni tua 1990 pan ddaeth cyfle i ehangu ac agor cangen yn Llanbed.
Cyn hynny, bu Siân yn gweithio i gwmni o ymgynghorwyr rheoli yn Llundain “ac mi gawson ni gyfle i ddod yn ôl at ein gwreiddiau.”
Mae’n cydnabod fod heriau’n wynebu’r diwydiant o ganlyniad i Brexit, ond mae’n pwysleisio fod gan y to hŷn “dipyn i ddysgu gan y genhedlaeth iau.”
Mae eu mab ieuengaf, Gruff, yn bwriadu ymuno â’r cwmni ar ôl cwblhau ei astudiaethau ym Mhrifysgol Harper Adams, gyda Harri a Morgan yn gweithio ill dau ym Mryste a Llundain.
“Mae’n gyfnod ansefydlog ac ry’n ni wedi gweld heriau ar hyd y blynyddoedd. Yr hyn sy’n bwysig yw parhau i gynnal yr un safon o wasanaeth ac edrych yn bositif tua’r dyfodol.”
Taith Tractorau
- Mae’r daith yn dechrau o Hafod Peniel am 11 y bore, dydd Sul Medi 24.