Cartref newydd i Fanc Bwyd Llambed

gan Jill Tomos

Mae Banc Bwyd Llambed erbyn hyn yn bedair blwydd oed! Ac mae’r gwaith yn mynd yn ei flaen.  Casglu bwyd, ei storio, ac yna pan ddaw gwir angen i’r golwg, mae modd ymateb drwy baratoi pecyn bwyd, addas i dri diwrnod, i helpu pobl yn ystod cyfnodau anodd iawn yn eu hanes.

Mae’r egwyddor yn syml ond fyddai’r Banc ddim yn llwyddo heblaw am gyfraniadau gan lawer, ac mae’r cyfan dan ofal pwyllgor llywio o wirfoddolwyr o eglwysi’r dref.

Gallwch chi ddychmygu fod angen rhoddion bwyd, a rhoddion arian at y bwyd, ac mae’r rhain yn dod gan bobl ar draws y gymuned, yn unigolion, ysgolion, eglwysi, cymdeithasau a busnesau. Diolch yn fawr i bawb ohonoch.

Mae angen lle i storio’r bwyd, ac o’r cychwyn bu rhai yn barod i roi lle i’r Banc: eglwys Emaus ar y cychwyn, ac oddi ar hynny, Coleg Prifysgol Y Drindod Dewi Sant, yn Neuadd Burgess. Yn ddiweddar, trefnodd y Coleg i’r Banc symud oddi yno i le’r Coleg ar safle Adeiladau’r Llywodraeth, Heol Pontfaen. Ac roedd dipyn o waith symud, ond rhyw ddiwrnod ym mis Ebrill, gwelwyd gwirfoddolwyr niferus yn pacio’r bwyd a’r silffoedd, gyda help staff y Coleg, a’u cludo i’w cartref newydd. Mae’r Banc Bwyd yn ddiolchgar iawn i Goleg Prifysgol Y Drindod Dewi Sant am y nawdd bwysig hon.

A gwirfoddolwyr o’r eglwysi wedyn sy’n trefnu pob peth: gweinyddu, casgliadau bwyd ac arian, trefnu a storio’r bwyd, derbyn ceisiadau gan yr asiantaethau priodol ac yna paratoi’r pecynnau, yn addas ar gyfer anghenion penodol yr unigolyn neu deulu sydd i’w cael. Mae cyfraniad y gwirfoddolwyr yn angenrheidiol i lwyddiant y gwaith, ac roedd hi’n braf iawn i glywed yn ddiweddar fod y Banc Bwyd wedi derbyn tystysgrif o ddiolch a gwerthfawrogiad o’r gwasanaeth cymunedol hwn gan Uchel Siryf Dyfed am 2016/17, sef yr Athro Medwin Hughes.

Y tristwch yw bod angen Banc Bwyd yn Llambed a’r cyffiniau. Mae hynny’n amlwg o’r ffigyrau. Yn ystod 2016 bu’r asiantaethau partner yn gofyn am 355 o becynnau, a bu’r adnoddau gan y Banc Bwyd i’w paratoi, gan ddarparu bwyd ar gyfer 78 o deuluoedd, oedd yn cynnwys 202 o oedolion a 178 o blant. Y prif reswm dros yr angen i ddefnyddio’r Banc Bwyd oedd bod budd-daliadau yn hwyr neu wedi cael eu torri; ac ar gyfer y rhai oedd mewn gwaith, fod cyflogau neu oriau wedi cael eu cwtogi. Roedd dyled yn ffactor mewn rhai achosion, hefyd digartrefedd, a thrais yn y cartref. Cael a chael yw hi yn hanes rhai, nes bod rhywbeth annisgwyl neu anorfod yn dod i darfu, gan arwain at fethu cael dau ben llinyn ynghyd, na bwyd ar y ford. Gwaetha’r modd, mae angen Banc Bwyd ac mae’r gwaith mae’n ei gyflawni felly yn bwysig.

Os hoffech wneud cyfraniad i’r Banc Bwyd, gallwch adael rhoddion bwyd yn y blwch penodol yn siop y Co-op neu yn yr Hedyn Mwstard.

Os ydych chi mewn trafferthion, ac arnoch chi angen bwyd o’r Banc Bwyd (neu yn gwybod am rywun), cysylltwch yn y lle cyntaf ag un o’r asiantaethau lleol (fel CAB, neu’r Gwasanaethau Cymdeithasol, neu Tai Ceredigion) neu un o eglwysi’r dref, iddyn nhw gael eich cyfeirio at y Banc Bwyd yn swyddogol.