Dros y misoedd nesaf fe fydd Cered: Menter Iaith Ceredigion yn cychwyn prosiect newydd er mwyn asesu gwir sefyllfa’r Gymraeg yn Llambed a’r cyffiniau trwy ffurfio Pwerdy Iaith Llambed.
Mae gan Cered brosiectau tebyg yn nhrefi Aberaeron, Aberteifi, Aberystwyth, Llandysul a Thregaron ac yn ystod 2017 rydym am lansio Pwerdai Iaith yn Llambed.
Gan ddefnyddio pecyn adnoddau Gweithredu’n Lleol Llywodraeth Cymru y bwriad yw i ddod â thrigolion lleol at ei gilydd er mwyn trafod ac adnabod cryfderau a gwendidau’r Gymraeg yn lleol mewn 5 maes eang a gwahanol. Y meysydd yma yw Demograffeg; Trosglwyddo Iaith a’r Blynyddoedd Cynnar; Addysg; Bwrlwm Cymdeithasol a Diwylliannol a’r Economi a Gwasanaethau Lleol.
Bydd Cered yn cynnal cyfres o grwpiau ffocws er mwyn ymchwilio i sefyllfa’r Gymraeg yn y meysydd a restrwyd uchod cyn mynd ati i baratoi cynllun gweithredu. Fe fydd y cynllun gweithredu yma yn galluogi Cered i gydweithio gyda’r gymdogaeth leol er mwyn datblygu prosiectau i gryfhau’r Gymraeg yn Llambed. Gydag amser y nod yw grymuso’r gymdogaeth leol i allu gweithredu o blaid y Gymraeg a cyfoethogi’r ymdrechion sydd eisoes ar waith yn y dref i gynnal a chryfhau’r iaith.
Os oes diddordeb gennych ddysgu mwy am y prosiect neu os ydych am sicrhau eich bod yn derbyn gwahoddiad i’r grwpiau ffocws yna cysylltwch gyda Swyddog Datblygu Cymunedol Cered, Steffan Rees ar 01545 572 350 neu steffan.rees@ceredigion.gov.uk