Cymrwn gipolwg ar ambell un o ddigwyddiadau’r misoedd diwethaf.
YMGEISIO AM SWYDD
Ar y 1af o Ebrill bu Sulwen Richards yn llwyddiannus yn y gystadleuaeth Ymgeisio am Swydd i aelodau o dan 21 ar faes y sioe, Llanelwedd gan ddod yn gydradd ail ar lefel Cymru.
DIWRNOD GWAITH MAES
Cynhaliwyd diwrnod gwaith maes y Sir ym Mart Llanybydder ar y 25ain o Fawrth. Llwyddodd Catrin a Lisa i gipio’r drydedd wobr yng nghystadleuaeth y Llwybr Natur, a bu’r ddwy’n gweithio’n ddiwyd gydag Iola wrth iddynt greu arwydd lliwgar ar gyfer y rali. Cyhoeddwyd ar ddiwedd y dydd bod Aled Thomas wedi dod yn 3ydd yng nghystadleuaeth stocmon hŷn y flwyddyn ac felly bu’n cynrychioli’r sir yn niwrnod gwaith maes Cymru ar y 29ain o Ebrill.
HER SEICLO CFfI SIR GÂR
Ar yr 8fed o Ebrill, gwelwyd cadeirydd y clwb, Aled Thomas, mewn siorts am y tro cyntaf ers meitin wrth iddo ef a Carwen Richards seiclo o Lanllwni i Bumsaint fel rhan o daith feicio llysgenhadon a chadeirydd Ffederasiwn Clybiau Ffermwyr Ifanc Sir Gâr. Codwyd dros £4,500 dros ‘It’s Time To Talk’, er cof am aelod o G.Ff.I San Ishmael, ac Ambiwlans Awyr Cymru.
CYNGERDD
Cynhaliwyd ein cyngerdd blynyddol yn hwyrach na’r arfer eleni oherwydd ein llwyddiant ar lefel Sir yn y gystadleuaeth adloniant. Ar y 13eg o Ebrill, roedd Neuadd y Coroniad, Pumsaint dan ei sang! Diolch i Mr Aelwyn Evans, Caegwyn am ei eiriau caredig fel llywydd y noson.
EISTEDDFOD DDWL
Bu Neuadd y Coroniad, Pumsaint yn leoliad ar gyfer Eisteddfod Ddwl ar y cyd rhwng clybiau Llanllwni, Llangadog, Llanfynydd a Dyffryn Cothi ar yr 20fed o Ebrill. Cafwyd chwerthin mawr a chreadigrwydd drwyddi draw gan yr holl aelodau.
Sir Nawdd Sioe Frenhinol Cymru 2017 – Sir Gâr
Er bu sawl aelod o’r clwb ynghlwm â chôr C.Ff.I Sir Gâr eleni, nid oedd modd iddynt ymuno â’r côr yn ystod noson ffilmio rhaglen Noson Lawen yn y Lyric yng Nghaerfyrddin ar y 5ed o Fai. Cynhaliwyd cinio i godi arian tuag at gronfa Sir Gâr 2017 (Sir Nawdd CAFC) ac Adeilad C.Ff.I. Cymru ar faes y Sioe Frenhinol ar yr un noson ac roedd dau fwrdd llawn o aelodau a chyn-aelodau o G.Ff.I Dyffryn Cothi’n bresennol.
RALI 2017
Cafwyd diwrnod prysur ar y 13eg o Fai wrth i’r aelodau fynd ati i gystadlu mewn amrywiol gystadlaethau megis trin gwlân, her yr oesoedd a chanu a chafodd Aled ei urddo’n swyddogol i’w swydd fel Dirprwy Lysgennad. Llongyfarchiadau i bawb ar eu hymdrechion.
Dyma ambell ganlyniad llewyrchus arall…
Arddangosfa’r Ffederasiwn: Bach o bawb – 7fed
Creu arwydd ar gyfer y rali: Catrin, Lisa ac Iola – 10fed
Crefft dan 16: Catrin Ashley – Cydradd 4ydd
Gosod blodau dan 16: Catrin Ashley – 10fed, Lisa Asher – 11fed
Gwisgo Arweinydd: Catrin a Lisa – Cydradd 3ydd
Gêm yr Oesoedd Iau: Ceri a Dion Davies – Cydradd 4ydd
Cneifio Defaid: Dylan Lewis a Rhydian Thomas – 1af
Barnu Stoc Gwartheg Hŷn: Gethin Mathias ac Eirwyn Richards – 6ed
Canu Grŵp Hŷn: Carys Haf a Deian Thomas – 4ydd
Barnu Defaid Suffolk Hŷn: Aled Thomas a Rhydian Thomas – 2ail
Canu Unigol Hŷn: Carys Haf – 1af, Carwen George – 3ydd
Trin Gwlân: Manon Johnston – 2ail, Lynwen Mathias – 3ydd, Rhydian Thomas – 4ydd, Carwen Richards – 6ed
Gwneud Halter Hŷn: Lynwen Mathias – 1af, Carwen Richards – 3ydd, Aled Thomas – 10fed
Barnu Cobiau Cymreig Hŷn: Eirwyn Richards a Gethin Mathias – 2ail
Gêm yr Oesoedd Hŷn: Sulwen a Carwen Richards – Cydradd 8fed
CINIO BLYNYDDOL
Pencampwr coets y clwb eleni yw Danny Jones a hynny wedi noson hwyliog o daflu coets ar y 18fed o Fai. Cafodd y cwpan hwn yn ogystal â’r holl gwpanau a’r tlysau a gasglwyd dros y flwyddyn eu cludo i Dafarn yr Hanner Ffordd, Nantgaredig ar y 26ain o Fai ar gyfer ein cinio blynyddol. Ein siaradwraig wadd oedd Eirios Thomas, a chyflwynwyd siec oddi wrth y clwb i Carwyn a Non Edwards ar ran Elusennau Hywel Dda. Aelod y flwyddyn oedd Craig Randell, a’r rhai â’r presenoldeb gorau oedd Aled Thomas, Dion Davies, Lisa Asher a Catrin Davies. Hefyd, cyflwynwyd cwpan i Eirwyn Richards a enillodd cystadleuaeth gêm yr oesoedd am greu cerbyd gyda llysiau.
CHWARAEON
Daeth y bechgyn yn 4ydd yn y gystadleuaeth rygbi saith bob ochr sirol ar nos Iau y 1af o Fehefin. Glyn Jones, un o arweinyddion y clwb fu wrthi’n crafu pen wrth iddo ddewis carfan Sir Gâr ar gyfer y Sioe Frenhinol. Da iawn i Dafydd Jenkins am gael ei ddewis i fod yn rhan o’r garfan ac Emyr Richards am gael ei ddewis i fod yn eilydd.
Bu Sulwen a Carwen Richards yn cynrychioli’r clwb mewn tîm pêl-rwyd ‘swyddfa’ yn ystod noson chwaraeon y Sir ar y 12fed o Fehefin. Yn wir, enillon nhw’r twrnament, a chafodd Carwen ei dewis i gapteinio tîm pêl-rwyd Sir Gâr ar lefel Cymru yn Aberystwyth ar y 25ain o Fehefin.
CCB
Cynhaliwyd ein CCB ar y 13eg o Fehefin yn Neuadd y Coroniad, Pumsaint. Croesawyd Alun Richards, Cwmcelynen i’n plith ac fe’i etholwyd ef yn Lywydd ar y clwb ar gyfer y flwyddyn sydd i ddod. Etholwyd Iwan Poulton yn Gadeirydd, Deian Thomas yn Is-Gadeirydd, Aled Thomas a Carwen Richards yn Ysgrifenyddion, Craig Randell yn Ysgrifennydd Rhaglen, Anna Davies yn Ysgrifennydd Cofnodion ac Eirwyn Richards yn Drysorydd.
CNEIFIO COTHI SHEARS
Bydd ein gornest cneifio blynyddol, Cneifio Cothi Shears, yn cael ei gynnal ar y 21ain o Orffennaf yng Nghilgawod, Caio. Dewch draw am dro!
Pob lwc i’n holl aelodau sy’n cystadlu yn y Sioe Frenhinol, yn enwedig Georgina Cornock-Evans, un o’n arweinyddion talentog sy’n Lysgenhades ar y Sioe eleni. #sirgar2017