“Roedd e’n gawr o ddyn – ar y cae chwarae ac yn ei gymeriad.”
Dyna sut mae un o ffrindiau penna’r saethwr colomennod clai sydd wedi cynrychioli Cymru wedi’i ddisgrifio.
Daeth y newyddion yr wythnos hon am farwolaeth Victor Morris, 57 oed o Felin-fach, sy’n gadael ei wraig Valmai a’i ferched Emma a Sarah.
Mae’r teyrngedau wedi llifo iddo gydag Alan Brown o Lanbed yn ei ddisgrifio yn “un o’r bobol ffeina’ mas – yn byw am ei deulu ac yn bencampwyr chwaraeon.”
Arferai Alan gyd-deithio â Victor wrth gystadlu mewn cystadlaethau saethu ymhob cwr o’r wlad ac fe’i disgrifiodd yn “gawr o ddyn oedd byth yn cwyno na digalonni. Roedd e wastad yn llawn cryfder, croeso ac yn bositif hyd y diwedd.”
Ond daeth tro ar fyd i Victor Morris bron i 30 mlynedd yn ôl pan fu mewn damwain wrth chwarae rygbi i dîm cyntaf Llanbed yn erbyn Llandarcy yn 1989, ac fe gafodd ei barlysu o’i wddw i lawr.
“Cyn hynny roedd e’n chwaraewr rygbi penigamp ac yn saethwr colomennod gyda’r gorau yn y wlad. Tase fe ddim wedi cael y ddamwain, fydde’ fe’n saethu yn yr Olympics – dyna pa mor dda oedd e,” meddai Alan.
Addasu
Wedi’r ddamwain, bwriodd Victor ati gan addasu ei ffordd o fyw ac fe luniodd ei hyfforddwr, John Kelman, ddryll arbennig ar ei gyfer fel ei fod yn gallu parhau i gystadlu.
“Mi oedd y dryll yn golygu ei fod yn gallu parhau i wneud beth roedd e’n caru ei wneud – ac roedd e’n llwyddiannus,” meddai Alan.
“Fe gafodd fynd i Bisley ac ennill yn erbyn pobol nad oedd ag anableddau hanner mor ddifrifol ag e. Roedd shot arbennig gydag e.”
‘Byth yn dal dig’
Un arall sy’n edmygu’r gŵr yw Llywydd Clwb Rygbi Llanbed, Dai Charles, a fu’n rhan o’r union gêm honno yn 1989.
“Roedd ’na sgrym ac aeth pawb i lawr. Pan godon ni, roedd Victor wedi syrthio i’r llawr. Doedd neb wedi sylweddoli pa mor ddifrifol oedd ei anaf ar y pryd, ond wrth ymgynnull o’i gwmpas fe sylwon ni fod rhywbeth mwy difrifol wedi digwydd, ac fe anfonwyd am ambiwlans.”
Yn ôl Dai Charles, roedd Victor yn “gymeriad cryf a doedd e byth yn dal dig. Mae e wedi cyflawni llawn gymaint ar ôl ei anaf. Ond yn fwy na dim roedd e’n dad addfwyn, yn ŵr ffyddlon ac yn ddyn i’w edmygu.”
Gêm dysteb
Ym mis Ebrill eleni, fe drefnodd clwb rygbi Llanbed gêm dysteb yn erbyn Llanymddyfri er mwyn codi arian er budd Victor Morris.
“Fe gawson ni ddiwrnod arbennig, ac fe ddaeth ei ffrindiau o’r byd rygbi a saethu ynghyd, ac fe gafodd ddiwrnod bendigedig yn eu cwmni,” meddai Dai Charles.