Cyfathrebu negeseuon byd amaeth

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Fflur Sheppard, fferm Llandre, yn datgelu’r allwedd at lwyddiant 

Mae merch o Lanbed yn datgelu mai “gweithio’n galed a manteisio ar bob cyfle” yw ei hallwedd hi at lwyddiant. 

Mewn cyfweliad arbennig â chylchgrawn Golwg yr wythnos hon mae Fflur Sheppard yn sôn am ei llwybr gyrfa a’i phrofiad diweddar o areithio yng nghynhadledd ‘Merched mewn Amaeth’ gan Gyswllt Ffermio ym Mhortmeirion ac Aberteifi. 

“Os ydych chi moyn ennill mewn bywyd a busnes mae’n rhaid i chi ddylanwadu ar bobol eraill. Rhaid i chi feddwl beth sydd ei angen? Ble mae’r bwlch yn y farchnad?,” meddai. 

Llwybr gyrfa… 

Cafodd Fflur ei magu ar fferm ei theulu, Huw a Sheila Davies, ar fferm Llandre ger Cwrt y Cadno gyda’i chwiorydd Siwan a Delun.

Mi adawodd Ysgol Uwchradd Llanbed gan fynd i ysgol breifat Christ’s Hospital yn Horsham Sussex cyn graddio o Brifysgol Warwick. 

Pan oedd yn iau cafodd gyfnod o brofiad gwaith gyda Menter a Busnes cyn cael swydd un haf gyda chwmni cig Dunbia ger Llanybydder. 

“Dyna pryd wnes i benderfynu fy mod i moyn gweithio yn y byd cyfathrebu a’r gadwyn fwyd. Ar ôl i fi raddio gwnes i weithio i Tesco ac ro’n i yno am chwe blynedd.” 

Fflur yng nghynhadledd Merched mewn Amaeth

Erbyn hyn mae newydd gael ei phenodi’n gyfarwyddwr gyda chwmni cyfathrebu Beattie Group. 

Mwy am Fflur Sheppard yn ‘Bugeilio busnesau’ yn rhifyn yr wythnos o gylchgrawn Golwg