Cyfrol newydd am ‘ffisegydd disglair’ Cwmsychbant

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360
Evan James Williams, Llun – Adran Ffiseg, Prifysgol Aberystwyth

Mae cyfrol newydd wedi’i chyhoeddi’r haf hwn sy’n dathlu cyfraniad y gwyddonydd mawr Evan James Williams – un o bobol Cwmsychbant.

Mae’r gyfrol yn rhan o gyfres gan Wasg Prifysgol Cymru sy’n ceisio codi ymwybyddiaeth pobol am rai o wyddonwyr amlyca’r genedl.

“Efallai nad yw Cymru wedi rhoi digon o sylw iddo, ac mae hynny’n wir am wyddonwyr yn gyffredinol…ond rwy’n meddwl fod ardal Cwmsychbant wedi gwneud cyfiawnder ag ef ac wedi rhoi’r sylw teilwng iddo,” meddai’r awdur Rowland Wynne.

Cyfeirio at y cyfrolau sydd eisoes yn bod a wnâi’r awdur yn hyn o beth gan gynnwys cyfrol Gwell Dysg na Golud gan Goronwy Evans ynghyd â dathliadau canmlwyddiant y gwyddonydd yn 2003.

‘Ffisegwr o fri’

Ac wrth oedi ar y briffordd gyferbyn â Chapel y Cwm yn y pentref, mae modd gweld plac bychan ar dalcen tŷ Brynawel – cartref y “ffisegwr o fri.”

Ffiseg yr atom

Yn y gyfrol mae Rowland Wynne yn olrhain hanes Evan James Williams (1903 – 1945) a gâi ei adnabod yn ‘Desin’.

“Un o’i gyfraniadau mawr oedd ei ymchwil a’i gyfraniad i ffiseg cwantwm,” meddai Rowland Wynne gan esbonio iddo gyfrannu at ymchwil i faes gwrthdrawiadau atomig a gronynnau elfennol.

“Mi oedd e wedi cydweithio â rhai o ffisegwyr mwyaf pwysig ar ddechrau’r ugeinfed ganrif, ac mi wnaeth gyfraniad aruthrol i ffiseg yr atom,” meddai.

Adeg y rhyfel ymunodd yn y dasg o ddiddymu bygythiad dinistriol llongau tanfor – “ond ni chafodd llawer o sylw am hyn ar y pryd am fod y gwaith yn gyfrinachol,” ychwanegodd Rowland Wynne.

‘Athrylith’

Mae’r llyfr hefyd yn olrhain ei fywyd cynnar ag yntau’r ieuengaf o dri o feibion gyda’i dad yn fasiwn (saer maen).

 

“Mae’n stori am ŵr o allu anghyffredin a oedd yn athrylith yn ei faes ac a ystyrir yn un o’r gwyddonwyr mwyaf galluog a welodd Cymru erioed.”