Cyngerdd Ieuenctid yr Ardal

gan Siona Evans

Neithwr yn Ysgol Gynradd Llanybydder, gwnaeth Pwyllgor Pentref Llanybydder gynnal Cyngerdd Ieuencid yr Ardal i ddechrau wythnos y Carnifal.

Yr oedd yn noson lwyddiannus iawn gyda’r noson yn dechrau â phlant Ysgol Feithrin Llanybydder yn canu yn dda iawn.

Nesaf yr oedd Hana a Sioned Fflur o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog, Alpha Evans ar y piano ac Elin Hughes yn canu’n hardd iawn.

Hefyd yr oedd plant Ysgol Llanybydder yn canu ac adrodd yn dda iawn.

Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan a diolch i’r rhai wnaeth ddod i wylio a chefnogi.  Cofiwch fynychu digwyddiadau eraill wythnos y carnifal.