Dewis Swyddogion Carnifal Llanybydder

gan Siona Evans

Ar nos Wener 7fed o Ebrill cynhaliwyd noson ddawns i ddewis swyddogion Carnifal Llanybydder yng Nghlwb Rygbi Llanybydder.

Roedd yn noson lwyddiannus dros ben a chafodd y plant amser da. Llongyfarchiadau i’r canlynol am gael eu dewis fod yn swyddogion: Brenhines y carnifal – Nia Thomas; Morwynion – Sara Davies ac Adele Rees; Brenhines y tylwyth teg – Lily Mumford; Tywysog –  Taylor Rees.

Bydd y carnifal ar 24ain o Fehefin, gorymdaith i ddechrau am 12.30yp o faes parcio Y Llew Du ac i ddechrau yng Nghae Rygbi Llanybydder am 1.00yp. Thema’r gwisgoedd yw Cymru.

Noson y carnifal yn y Clwb Rygbi – bydd disgo i’r plant am 6.00yh gyda disgo ac adloniant gan y gantores Kiri Leigh i’r oedolion o 8.00yh tan yr hwyr.

Bydd nifer o weithgareddau yn ystod wythnos y carnifal, 18fed o Fehefin – 24ain o Fehefin:
Dydd Sul – Cyngerdd Ganu yn Ysgol Llanybydder am 6.30yh.  
Dydd Llun – Helfa Drysor Car, £5 y car, i ddechrau o’r Clwb Rygbi am 6.00yh.  
Dydd Mawrth – Bingo yn y Clwb Rygbi am 8.00yh.  
Dydd Mercher – Helfa Drysor Cerdded – Dechrau o Dan y Graig am 6.30yh.  
Dydd Gwener – Cwis