Diarhebion hynafol yn ysbrydoli arlunwyr ifanc!

gan Lilian Jones

‘ARTiculate’ arddangosfa wreiddiol agorwyd yng Ngaleri 3 Y Ganolfan Cwiltiau Cymreig, Llanbed ar yr 2il o Fai.

Arweinydd y gwaith yw’r arlunydd o Geredigion, Helen Duffy sydd wedi bod yn cydweithio gyda dysgyblion o Ysgol Y Dderi a Bro Pedr ac arlunwyr proffesiynol eraill o dan Prosiect Arweiniol Creadigol sydd yn cael ei ariannu gan Gyngor Celfyddydau Cymru.

Disgyblion Ysgol y Dderi
Disgyblion Ysgol y Dderi

Ysbrydolwyd a chynlluniwyd gwaith y plant wedi astudiaeth diarhebion ein cyndeidiau. Mae ‘ARTiculate’ yn arddangosfa arbennig sy’n dangos gwaith lliwgar, llachar y plant, ond sydd hefyd yn ein hatgoffa o ddiarhebion ‘slawer dydd. Byddai’r diarhebion yn cael eu hadrodd ar lafar o genhedlaeth i genhedlaeth. Yn hwyrach, fe gofnodwyd hwy ar ddu a gwyn yn yr Oesoedd Canol. Mae enghreifftiau o farddoniaeth a diarhebion wedi eu cofnodi yn Llyfr Gwyn Rhydderch a Llyfgr Coch Hergest, yn y bedwaredd ganrif ar ddeg (Llyfrgell Genedlaethol Cymru).

Mae Canolfan Cwiltiau Cymru yn denu ymwelwyr o bedwar ban byd. Wythnos ddiwethaf daeth ymwelwyr o Awstralia, Seland Newydd, Y Swistir, Lloegr a Chymru i ymweld â’r ganolfan ac roedd pawb wedi mwynhau edrych ar y gwaith gwych gan gymryd lluniau a phrynu cardiau a ddyluniwyd gan y plant.

Hefyd os ydych am ymweld â’r ganolfan, cofiwch fynd i weld y brif arddangosafa sef ‘As Good as it Gets’ yng Ngaleri’r Llys – Cwiltiau Godidog o’r 20au a 30au gwnaethpwyd ar gyfer y farchnad foethus gan gynnwys y Teulu Brenhinol, y bendefigaeth a gwestai nodedig megis Gwesty Claridge’s yn Llundain. Pan agorwyd adain ‘art deco’ y gwesty ym 1932, roedd yna Gwilt Cymreig ar bob gwely. Mae Cwilt Claridge’s yn cael ei arddangos gyda llawer mwy o gwiltiau godidog yr oes yma yn y brif galeri – Galeri’r Llys.
Mae’r Ganolfan Gwiltiau ar agor o Ddydd Mawrth i Ddydd Sadwrn 11yb i 4.30yp.

Mynediad am ddim i ‘Articulate’, ond mae tâl ar gyfer y brif arddangosfeydd yng Ngaleri’r Llys a Galeri 2.

1 sylw

Hazel Thomas
Hazel Thomas

Gwych, hyfryd darllen bod yr hen ddiarhebion yn gweld dadeni.
Daliwch ati wrth Hazel

Mae’r sylwadau wedi cau.