Daeth cynulliad teilwng ynghyd i Noddfa ar 15 Hydref i Wasanaeth Diolchgarwch yng ngofal yr Ysgol Sul wedi ei lunio gan Janet.
Mewn pennill a chân canolbwyntiwyd ar ran bwysig o’r corff sef ein dwylo. Braf oedd gweld 26 yn cymryd rhan yn cynnwys plant, pobol ifanc a’u rhieni.
Cymerwyd at y rhannau arweiniol gan Beca ac estynnwyd croeso cynnes i bawb gan Lisa. Bu Osian Roberts, Cerys a Sion Ifan yn cyhoeddi’r emynau ac offrymwyd gweddi gan Delyth a Helen.
Darllenwyd adnodau o’r Beibl yn sôn am Iesu yn defnyddio ei ddwylo i wneud daioni, i fendithio plant ac i weddio gan Sian Rhandir, Iona ac Alwyn. Y llefarwyr oedd Sian Croesor, Elan, Sioned a Ffion. Mwynhawyd datganiad swynol o’r emyn ‘Dwy law yn Erfyn’ gan Cerys, adroddiad deallus gan Gwenllian a chyflwyniad hyfryd o emyn Verina Matthews yn seiliedig ar y drydedd salm ar hugain gan y merched hynaf. Cafwyd ymgom ddiddorol gan Llinos, Efan a Sion Ifan yn seiliedig ar hanes y brodyr Albrecht a Frank Durer a’r llun enwog y Dwylo.
Pleser fel arfer oedd gwrando ar y plant ieuengaf yn canu a llefaru sef Tudur, Rhun, Ifan, Trystan Bryn, Trystan Wyn, Cai, Lynwen ac Esther gan roi gwên ar wynebau pawb. Diolchwyd ganddynt am ddwylo i wneud amrywiol bethau yn cynnwys chwarae rygbi, helpu ar y fferm, canu’r delyn a’r piano, coginio, ysgrifennu a gweddio. Bu eraill yn diolch am ddwylo rhieni, athrawon, y ffermwyr a’r garddwyr, y doctoriaid a’r nyrsys heb anghofio dwylo ein Gweinidog sy’n agor y Beibl ac yn ein dysgu am hanes Iesu Grist a chariad Duw.
I gloi ymunodd y plant i gyd gyda brwdfrydedd i ganu ‘Mae ganddo’r byd cyfan yn ei Law’. Gwasanaethwyd wrth yr organ gan Alwena gyda Sioned a Janet yn cynorthwyo. Yn ystod yr oedfa bu’r plant yn gwylio ffilm yn dangos Iesu yn derbyn plant bychain ac yn dilyn hyn bu Janet yn holi cwestiynau a’r ymateb yn dda iawn yn enwedig wrth y rhai lleiaf.
Talodd ein Gweinidog y Parchedig Jill Tomos ddiolch haeddiannol i bawb oedd wedi cyflawni eu gwaith mor raenus, i’r rhieni am eu cefnogaeth, i Janet am ei threfniadau manwl a’i syniadau newydd unwaith eto ac yn olaf ond nid y lleiaf i Derek a Roy am baratoi’r llwyfan. Talodd Janet ei gwerthfawrogiad hefyd i bawb am eu cydweithrediad parod ac i Jill am ei gwaith gyda’r offer technegol. Llongyfarchodd Beca ar ennill ei chap cyntaf i Gymru mewn Athletau gan ddymuno’n dda iddi pan fydd yn cystadlu yn Glasgow ym mis Tachwedd. Hefyd llongyfarchodd Sion, cefnder Beca ar ennill nifer o gystadlaethau rasus beiciau modur ar hyd a lled y wlad.
Wrth droi tuag adre roedd pawb yn uchel eu canmoliaeth o gyfraniadau y plant, y bobol ifanc a’u rhieni mewn gwasanaeth arbennig i ddiolch i Dduw am ei holl fendithion.