Diwedd blwyddyn lwyddiannus i CFFI Cwmann

gan Iestyn
Enillwyr yr Helfa Drysor
Enillwyr yr Helfa Drysor

Perfformiwyd yr hanner awr adloniant unwaith eto yn Neuadd Pontrhydfendigaid ar wahoddiad gan glybiau Lledrod a Thregaron ar y 9fed o Fawrth. Cafwyd noson hwylus a da oedd gweld wynebau gwahanol yn y gynulleidfa. Hoffai’r clwb ddiolch am y gwahoddiad a’r croeso cynnes dros y ffin, edrychwn ymlaen at flwyddyn nesa yn barod!

Ein Llywydd, Dylan Lewis oedd yn ngofal y nosweth ar y 17fed o Fawrth. Cafwyd noson ddiddorol o edrych ar ‘hobby’ Dylan, sef casglu lluniau o arwyddion wedi’u cyfiethu yn anghywir! Ie, pwy fydde wedi meddwl! Bu tipyn o chwerthin ar ambell un welwyd!

Ar yr 8fed o Ebrill daeth her seiclo Llysgenhadon y Sir i Gwmann gan alw yn y Neuadd ar ei ffordd drwy’r pentref. Braf oedd gweld nifer o aelodau yn cymryd rhan a eraill wedi dod i’w croesawi i’r pentref. Bu pawb yn hael gyda’u rhoddion, a’r tywydd hefyd yn garedig.

Cafwyd taith i draeth Cei Newydd ar y 21ain o Ebrill. Mwynhawyd llond bola o chips cyn gêm o griced ar y traeth gan fod y tywydd mor braf. Ar y diwrnod canlynol, roedd Carys yn cystadlu yn AGM yr NFYFC yn Torquay, yn cynrhychioli Cymru fel aelod y flwyddyn. Gwnaeth hi yn arbennig unwaith eto drwy dod yn gydradd ail, llongyfarchiadau mawr Carys!

Ymweliodd aelodau y clwb â fferm Llwyn, Llanfair ar y 4ydd o Fai drwy garedigrwydd y teulu Jones. Cafwyd noson o drafod eu system ffermio a chyfle i weld cyfleusterau newydd arbennig. Braf oedd gweld gwartheg o safon gwych o dan ofalaeth dau gyn-aelod, Dafydd ac Aled, a diolch am y lluniaeth a gafwyd ar ddiwedd y daith.

Cyhaliwyd Rali y Sir a y 13eg o Fai ar faes y sioe yn Nant y Ci, Caerfyrddin. Bu cystadlu brwd a gwnaeth aelodau y clwb yn dda unwaith eto eleni gyda llwyddiant yn dod i Dafydd yn y coginio, merched yn y dawnsio a Iestyn a Gwawr yn y generation game. Gair o ddiolch i bawb a wnaeth rhoi amser i ddysgu a hyfforddi yr aelodau.

Ar yr 2il o Fehefin, cynhaliwyd yr helfa drysor blynyddol wedi’i drefnu gan Aled a Iestyn, gan ddechrau yn Neuadd Sant Iago a gorffen yn nhafarn Cwmann. Bu cystadlu brwd gyda 10 o geir allan ar yr helfa, gyda Elen, Carys, Gwawr a Rhian yn dod i’r brig. Pob lwc yn trefnu blwyddyn nesa ferched!

Cafwyd noson flynyddol Cneifo y clwb ar y 9fed o Fehefin yn Tanlan, Parc-y-Rhos drwy garedigrwydd y teulu Lewis. Gwelwyd nifer o aelodau ifancaf y clwb yn troi eu llaw at bacio gwlan, gyda Dafydd yn dod i’r brig yn adran y bechgyn, ac Undeg yn adran y merched. Diolch i deulu Tanlan ac Aneurin am y defaid a’r lluniaeth i dorri syched wedyn, ac hefyd i Kevin am ddod â’r bocs cneifo. Manteisiwyd ar y nosweth yma hefyd i gyflwyno arian a godwyd yn ystod y flwyddyn i elusennau Stroke a Teenage Cancer Trust.

Ar y 24ain o Fehefin cafwyd ein cinio blynyddol yng Ngwesty Llanina, Llanarth gyda Mared Williams, is-gadeirydd y Sir fel siaradwraig gwadd. Braf oedd gweld yr ystafell dan ei sang gydag aelodau a chefnogwyr y clwb yn ymuno i ddathlu blwyddyn lwyddiannus arall. Aeth gwobr aelod Iau y flwyddyn i Elan a rhannwyd y wobr aelod Hŷn rhwng Carys a Sian Elin.

Bu dau aelod yn cynrhychioli y Sir yn ystod mis Mehefin, gyda Rhian yn rhan o dim pêl-rwyd a wnaeth chware yn niwrnod chwaraeon Cymru yn Aberystwyth. Hefyd buodd Elan yn cynrychioli y Sir yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus Saesneg cenedlaethol yn Swydd Stafford. Cafodd tipyn o hwyl arni, yn ennill y siaradwr a’r darllenwr gorau, ar tîm yn dod yn ail. Llongyfarchiadau gwresog i’r ddwy, rhoi Cwmann ar y map unwaith eto!

Mae cyfarfod cyffredinol blynyddol wedi bod erbyn hyn, gyda swyddogion newydd wedi eu hethol:

Llywydd – Mair Williams, Pencarreg

Cadeiryddes – Rhian

Is-Gadeiryddion – Gethin a Morgan

Ysgrifenyddes – Sian Elin

Trysoryddion – Gwawr a Carys

Edrwychwn ymlaen at flwyddyn lewyrchus arall, a chofiwch fod croeso i aelodau newydd i ymuno â ni.