Derbyniwyd diweddariad am ymgyrch ailagor rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin gan Traws Link Cymru.
Ym mis Hydref, ysgogwyd yr ymgyrch i ailagor y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn sylweddol. Yn dilyn pwysau oddi wrth Blaid Cymru, fe gyhoeddodd y llywodraeth Llafur/Rhyddfrydwr y bydd yn buddsoddi £300,000 am Astudiaeth Dichonolrwydd lawn yng Nghyllideb ar gyfer 2016-2017.
Yn dilyn cyhoeddiad yr Astudiaeth gwmpasu ym mis Rhagfyr 2015, bu Traws Link Cymru ynghlwm â dau gyfarfod gyda nifer o sefydliadau eraill i gynhyrchu Adroddiad WelTAG 1. Mae’r adroddiad hwn yn ystyried sut mae’r syniad yn mynd i’r afael â phroblemau trafnidiaeth yr ardal a sut y bydd yn cwrdd â pholisïau’r Llywodraeth ar drafnidiaeth, ond nid yw’r adroddiad yma wedi’i gwblhau eto. Beth bynnag fydd y canlyniad, mae’n siŵr o fod yn gadarnhaol, oherwydd ni fyddai’r Llywodraeth wedi buddsoddi swm mor fawr i ddatblygu dyfodol i’r rheilffordd.
Casglwyd 2,600 o lofnodion i’n deiseb yng Ngharnifal Aberystwyth a Ffeiriau’r Glas Prifysgol Aberystwyth. Mi fyddai’r myfyrwyr yn elwa dipyn o’r cyswllt rheilffordd. Rhaid ychwanegu’r 50,000 o fyfyrwyr at y chwarter miliwn o drigolion sy’n byw yng Ngheredigion a Sir Gâr a fyddai’n elwa’n fawr o’r cysylltiadau gwell.
Pwysleisiwyd pwysigrwydd y rheilffordd i orllewin Cymru gan Ken Skates yn y Senedd ym mis Tachwedd gan nodi ei fod yn falch bod yr Astudiaeth Ddichonolrwydd Llawn yn mynd yn ei blaen, ac yr oedd am gyfarfod â Network Rail, ac yn bwriadu i ailagor y rheilffordd ddod yn rhan o’r ymholiadau i’r Comisiwn Isadeiledd Cenedlaethol i Gymru.
Yn ddiweddar, fe ail-agorwyd rheilffordd y Gororau yn yr Alban, ac amcangyfrifwyd bod ail agor y rheilffordd yma (sydd wedi bod yn ysbrydoliaeth i ymgyrch Traws Link Cymru) wedi arbed 7 bywyd y flwyddyn ar heol yr A7 rhwng Caeredin a Galashiels. Bydd y rheilffordd rhwng Aberystwyth a Chaerfyrddin yn lleihau’r nifer o geir ar yr heol, gan gynnig modd o deithio mwy diogel a llai niweidiol i’r amgylchedd.
Mae’r datblygiadau diweddar wedi bod yn gyffrous iawn, a phwy a ŵyr, o ganlyniad i waith ein hymgyrch, efallai fe welwn Llanybydder a Llanbed wedi eu cysylltu eto gyda’r byd ehangach yn y dyfodol agos.