Ar nos Wener 15fed o Fedi cynhaliodd Radio Ceredigion noson wobrwyo arwr lleol yng ngwesty’r Cliff, Gwbert. Bu’n noson hwylus ac emosiynol i glywed storïau y rhai enillodd wobrau.
Fe wnaeth fy chwaer Elain Fflur Williams enwebu fy nhad Emyr Williams, 52, o Lanbed (Llanybydder gynt) am y gystadleuaeth ‘best dad of the year’. Ysgrifennodd erthygl am ei fywyd dros y pedair blynedd diwethaf, a dyma fe..
“Dechreuodd dad dioddef a osteoarthritis nol yn 2013 a dyna pryd daeth diwedd i’w waith fel saer. Yn 2014 cafodd lawdriniaeth ar ei gluniau i ailosod y ddau. Yn Ebrill 2015 chafodd laminectomi ar ei asgwrn cefn lle oedd rhaid torri’r esgyrn yn ei fertebra i ryddhau’r nerf clunol. Roedd dad dal yn dioddef a phoen ar ôl cael y llawdriniaeth felly welodd arbenigwr yn ysbyty Cabowen, Oswestry, roedd y canlyniad ddim yn bositif! Nid chafodd y llawdriniaeth ei wneud yn gywir, roedd mewn risg rhy uchel i’w chywiro a gallai arwain iddo fod mewn cadair olwyn am ei fywyd. Mae’n rhaid iddo ddioddef efo’r poen! Yn Awst cafodd llawfeddygaeth wedi’i gywiro ar ei fys troed yn ysbyty Llanelli. Yn y pedair blynedd diwethaf mae dad wedi bod trwyddo lawer a dal mewn poen bob dydd.
Yn Medi 2012 fe wnaeth dad rhywbeth anhygoel. Cafodd galwad ffôn o wasanaeth gwaed Cymreig gyda newyddion gwych i ddweud ei fod methu helpu dyn o’r enw Milton yng Nghanada sy’n dioddef o lewcemia. Roedd rhaid i dad fynd nôl a mlaen i Bont-y-clun sawl waith am brofion gwaed, roedd yn 99.999% ’match’ i Milton. Roedd rhaid i dad cael chwistrelliad yn ddyddiol mewn ei fola i ysgogi ei stem cells, yr oedd yn broses hir. Yn Chwefror 2013 aeth i ysbyty Casnewydd i wneud y cyfraniad. O fewn 24 awr mi fydd ei ‘stem cells’ yn cael i hedfan mas i Ganada a fydd Milton yn dechrau eu triniaeth. Ers hynny mae dad a Milton mewn cysylltiad ar y ffon a trwy facebook. Chafodd newyddion arbennig blwyddyn dwethaf – cafodd Milton ei ganlyniadau yn ôl ac mae’r cancr wedi mynd. Mae fy nhad i yn berson arbennig iawn ac yn arwr i mi.”
Nid yn unig enillodd y tlws ‘the best dad of the year’, hefyd enillodd dad prif wobr y noson sef ‘the local hero award 2017’. Fel hyn y dwedodd dad “O ni’n gobsmacked, roedd llawer o bobl na ar y noson yn haeddu’r wobr yma, dim fi, diolch i Elain”. Mae dad wedi bod trwy lawer ac rydym yn ddiolchgar am bopeth y mae yn ei wneud i ni fel teulu. Mae o hyd yn arwr yn ein llygaid ni!