Mae cynghorydd lleol ward Llanwenog wedi cael ei ethol yn Llywydd i fudiad Ffermwyr Ifanc Ceredigion am y flwyddyn sydd i ddod.
Dros y flwyddyn ddiwethaf mae Euros Davies wedi bod yn Is-Lywydd i Geraint Morgan o Langeitho, ac yng nghyfarfod blynyddol y mudiad yn neuadd Jiwbili Llangeitho nos Fercher (Medi 20), fe gafodd ei ethol yn Llywydd.
“Mae Euros yn berchen ar y rhinweddau angenrheidiol i fod yn Llywydd arnom eleni,” meddai Elin Haf Jones o glwb Llanwenog wrth ei gynnig.
“Mae’n gyn-aelod o’r mudiad, yn gynghorydd lleol i ni yn Llanwenog ac yn weithgar a chefnogol i’n clwb ni ac i glybiau eraill y Sir.”
“Mae’n adeiladwr wrth ei waith bob dydd ac yn berson sy’n barod i dorchi llewys a helpu pan fo’r angen,” meddai.
Yn ystod y cyfarfod cafodd …
- Milwyn Davies, un o arweinyddion CFfI Trisant, ei ethol yn Ddarpar Lywydd i’r Sir
- Mererid Jones o Felin-fach yn Gadeirydd a
- Caryl Haf o Landdewi Brefi yn Is-gadeirydd.