Ffair Ram Cwmann a Thaith Tractorau 2017

Canlyniadau Ffair Ram

Ffair Ram
gan Ffair Ram

Cynhaliwyd y 27ain Ffair Ram ar gae pentref Cwmann ar y 9fed Medi. Cafwyd diwrnod cyfnewidiol o ran tywydd a chefnogaeth dda yn ystod y dydd.

Cafwyd gweithgareddau llwyddiannus yn ystod y dydd o dan lywyddiaeth Mr a Mrs Cyril Davies, Brynteg, Llanbed. Cafwyd araith bwrpasol gan Cyril yn pwysleisio gwerth sioeau lleol.

Cafwyd cystadlu brwd ym mhob cystadleuaeth yn yr adrannau isod ac arddangosfa arbennig o dda o hen beiriannau.  Dyma’r ail flwyddyn lle trefnwyd Taith Tractorau a gynhaliwyd yn ystod y bore.

Gwerthwyd y cynnyrch ar ddiwedd y dydd gan Roy Roach a chodwyd swm sylweddol gyda chyfran o’r elw yn mynd tuag at Grŵp Cefnogi Cancr y Brostad Gorllewin Cymru.

Dyma enillwyr y Gwobrau:

Adran Fferm:- Gareth Russell; Llysiau a Ffrwythau:- Ann Davies; Blodau:- Muriel Mc Mullan; Cynnyrch y Gegin:- Joyce Williams; Cyffeithiau a Gwinoedd:- Pat Jones; Ysgol Feithryn:- Elis Jones; Dosbarth Derbyn:- Milo Forde; Blwyddyn 1 a 2:- Deina Evans; Blwyddyn 3 a 4:- Ellie Gregson; Blwyddyn 5 a 6:- Casi Gregson; Ysgol Uwchradd:- Mari Lewis; Arlunwaith:- Meinir Evans; Ffotograffiaeth:- Trystan Williams; Crefftau Cefn Gwlad:- Gwyn Williams; Adran Grefftau:- Meinir Evans; Defaid Penfrith:- Eiddig Jones; Defaid Mynydd Cymreig:- Price, Gelliwrol; Defaid Mynydd Arall:- Tomos Jones, Felindre; Defaid Texel:- Russell Coedeiddig; Unrhyw Fridiau Llawr Gwlad:- Price Gelliwrol; Wyn Tew:- Roberts, Brynview;

Cyflwynwyd y cwpanau canlynol: Llysiau a Ffrwythau:- Er Cof am Martin Jones Felindre;- Ann Davies; Pwyntiau Uchaf yn Cynnyrch y Gegin a Cyffeithiau a Gwinoedd Cwpan sialens Bronwydd:- Pat Jones, Felindre; Adran Grefftau:- Cwpan sialens Er cof am Dilys Godfrey:- Meinir Evans; Adran Defaid:- Cwpan Sialens Eric Harries am y ddafad neu oen fenyw orau:- Price, Gelliwrol; Cwpan Sialens Ram Inn am y Hwrdd neu oen hwrdd gorau:- Russell, Coedeiddig; Cwpan Sialens Dalgetty am yr anifail gorau:- Price, Gelliwrol; Cwpan Sialens Teulu Hendai am y grŵp gorau o dri:- Price, Gelliwrol;

Hoffai’r swyddogion ddiolch i bawb a fu’n helpu ac am bob cefnogaeth.

Gellir gweld mwy o luniau ar wefan Ffair Ram.