Diolch i ti Sian Elin, Glesni wir wedi mwynhau yn dy gwmni ac wedi elwa o’r profiad yn fawr. Pob hwyl yn y dyfodol x
Ar ôl llwyddiant arbennig Gig Blwyddyn Newydd yr Urdd, roedd hin ymgais mawr i mi drefnu Gig arall, a pha amseru gwell na diwedd cyfnod arholiadau ar gyfer ieuenctid ein hardal i fwynhau cychwyn yr haf!
Felly es ati i drafod gyda Neuadd Fictoria i drefnu Gig Cymraeg- y bandiau oedd Swnami, Calfari a Mellt. Trawstoriad o arddulliau oedd at ddant pawb. Mi ddaeth 2 fws o ardal Aberystwyth a Chaerfyrddin i fwynhau’r bandiau a hyfryd wrth gwrs gweld yr ardaloedd lleol yna hefyd, Roedd 300 o bobl ifanc wrth eu boddau yn mwynhau Nos Wener a mwynhau cerddoriaeth Gymraeg.
Roedd hyn yn cloriannu’r cyfan i mi gan fy mod yn gorffen fy swydd fel swyddog ieuenctid yr wythnos yma ac yn dychwelyd i’r coleg. Pwrpas cael blwyddyn allan o’r brifysgol oedd magu sgiliau newydd a phrofiadau ond yn fwy na dim byd, y gallu i drefnu digwyddiadau ar gyfer ein pobl ifanc yng Ngheredigion. Mae fy mlwyddyn allan gyda’r Urdd wedi cynnwys nifer helaeth o ddigwyddiadau a threfnu a dw i wedi bod wrth fy modd yn gwneud hynny, ond y balchder mwyaf sydd gyda mi o’m mlwyddyn allan ydy’r Fforwm Ieuenctid arbennig sydd yn ein Sir ni, Ma’ bob un ohonynt yn arbennig!! Mae’r brwdfrydedd sydd ganddynt fel pobol ifanc at ein gwaith yn yr Urdd yn arbennig ac yn bendant ni fyddem wedi mwynhau’r profiad cymaint heb eu cwmni a’u gwaith hwy.
Felly diolch yn fawr iawn i Urdd Ceredigion am y cyfle i allu profi blwyddyn arbennig allan o’r coleg!