Ar nos Sadwrn y 7fed o Ionawr roedd hi’n noson go fawr yn Neuadd Fictoria Llambed. Gig Y Cardis, dyna chi enw da, Gig oedd yn rhoi blas ar y Sîn Roc Cymreig i bobl ifanc Ceredigion.
Fel mae nifer yn gwybod, benderfynes i gael blwyddyn allan o’r brifysgol er mwyn gweithio fel Swyddog Ieuenctid am flwyddyn yng Ngheredigion. Roedd y swydd yma yn rhoi tipyn o gyffro i mi gan fy mod i yn bersonol wedi bod yn aelod o’r Urdd ers yn oed ifanc ac yn aelod brwd o Fforwm Ieuenctid yr Urdd. Felly roeddwn yn awyddus iawn i dreial prosiectau newydd ar gyfer pobl ifanc y Sir. Wrth gwrdd â’r Fforwm yn gynharach yn y flwyddyn, yr un syniad oedd gyda phawb, sef GIG – ond nid Gig ar raddfa fach, o na, Gig mawr!!
Felly dyma fi’n mynd ati gyda help Dan Rowbotham i drefnu Gig! Lle i ddechrau? ‘Reit de, ddechreuais drwy ofyn y bandiau. Candelas oedd y band poblogaidd ar feddyliau’r Fforwm i gyd, felly Candelas amdani. Roeddwn yn ffodus iawn fod Candelas ar gael, felly edrych am ddau fand arall. Roeddwn yn awyddus iawn er i groesawu band adnabyddus, poblogaidd, i groesawu bandiau ifanc, newydd. Ar ôl mynychu Maes B eleni roedd enw da iawn gyda fand weddol newydd ac ifanc o ardal Meidrim sef CPT.Smith. Roedd CPT.Smith yn chware cerddoriaeth ffresh ac yn amlwg yn gwybod sut i gynnal cynulleidfa. Yn olaf wedyn penderfynom gael Argrph, sŵn newydd, gwahanol, sydd yn dangos doniau cerddorol cryf. Roedd nifer o bobl yn hoff iawn o Argrph gan ei bod yn dangos nodweddion ‘cŵl’.
Roedd y noson yn un anhygoel. Ar ôl yr holl drefnu roedd gweld bod cynifer o bobl ifanc Ceredigion wrth eu bodd yn canu efo Candelas wedi gwneud i fi sylwi fod ’na alw mawr am fwy o Gigs yn ein hardal ni.
Roedd agos iawn i 260 o bobl yna nos Sadwrn, braf oedd gweld hefyd fod trawstoriad o oedran yna hefyd, a bod pawb i weld wedi joio mas draw. Diolch yn fawr iawn i bawb am bob cefnogaeth ar hyd y misoedd diwethaf, a diolch i Lysgenhadon y Sir am helpu i werthu tocynnau. Dw i wir yn ddiolchgar. Mae’n diolch i’n fawr i’r Urdd hefyd, yn enwedig i Anwen Eleri am roi’r cyfle i mi drefnu hyn ar gyfer pobl ifanc y Sir. Diolch!