Llongyfarchiadau i Rhian Haf Evans o Gwmann am ennill Gwobr Adnoddau Dynol Proffesiynol y Flwyddyn mewn seremoni yn Stadiwn Swalec Caerdydd nos Iau.
Trefnwyd y digwyddiad gan Rwydwaith Adnoddau Dynol Cymru sef prif rwydwaith ar gyfer gweithwyr adnoddau dynol proffesiynol yng Nghymru.
Y beirniaid anrhydeddus oedd Alison Wright – Cyfarwyddwr cwmni Callan Wright; Genevieve Ryan – Pennaeth Adnoddau Dynol Acorn Group, a Fiona Sinclair, Ymgynghorydd Adnoddau Dynol Darwin Gray.
Dywedodd Rhian Twynog (fel yr adnabyddir hi’n lleol) “Rwy’n prowd iawn o dderbyn y wobr hon ym maes Adnoddau Dynol. Does dim llawer o gydnabyddiaeth yn cael ei rhoi i swyddi yn y maes. Ein rôl ni yw edrych ar ôl y staff a gwneud yn siwr eu bod yn hapus ac yn bihafio!”
Mae Rhian yn Gyfarwyddwr Cynorthwyol Adnoddau Dynol Tai Ceredigion wedi ei lleoli yn y swyddfa ar safle’r hen orsaf drenau yn Llanbed. Cyflogir 140 o weithwyr i gyd gan y gymdeithas.
Mae Tai Ceredigion yn Gymdeithas Tai, leol, ddi-elw. Gall incwm Tai Ceredigion i gyd gael ei fuddsoddi’n ôl mewn i wella cartrefi tenantiaid, darparu gwasanaethau o safon i denantiaid a lesddeiliaid a rhedeg y gwasanaeth tai.
Yn ogystal â gweithio i Tai Ceredigion, mae Rhian yn weithgar iawn yn y gymuned. Mae’n aelod o Gôr Corisma, yn lywodraethwr yn Ysgol Bro Pedr ac yn organnydd achlysurol yng Nghapel Shiloh, Llanbed.
Y ddwy arall a gafodd eu henwebu hefyd ar gyfer yr un categori ym maes cymdeithasau tai oedd Jayne Jones, Hafod ac Eleri Jane Edwards, Cartrefi Cymunedol Gwynedd. Tipyn o anrhydedd felly i ferch leol am rhagori yn y maes arbenigol hwn. Da iawn wir.