Croesawyd Cymru gyfan i Ŵyl Cerdd Dant Llandysul a’r Fro 2017 i Ysgol Bro Teifi ar ddydd Sadwrn, Tachwedd 11eg.
Roedd Ysgol Bro Teifi yn ferw gwyllt gyda’r telynau gwerthfawr yn landio yno er mwyn cystadlu yn y gwahanol gystadlaethau.
Braf oedd gweld bwrlwm o gystadlu ben bore gyda’r rhagbrofion, a hynny yn parhau tan ddiwedd y nos. Cafwyd cystadlu arbennig o’r safon uchaf ym mhob cystadleuaeth.
Llywydd y dydd: John Lewis.
Llywyddion Anrhydeddus: Allan Shires a Catherine Watkin.
Arweinyddion: Heledd Cynwal, Owain Evans ac Iwan Griffiths.
Swyddogion y Pwyllgor Gwaith:
Cadeirydd: Cyng. Keith Evans.
Is-Gadeirydd: Robert Jenkins.
Trysorydd: Heather Price.
Ysgrifenyddion: Aled Jones a Linda Davies.
Gan fod yr ŵyl yn lleol, braf oedd gweld unigolion ac ysgolion yr ardal yn cymryd rhan ac yn cystadlu.
Dyma’r enillwyr sydd yn byw yn ardal CLONC. [Bydd lluniau gwell ohonynt yn y rhifyn nesaf o Clonc a fydd allan yn siopau ar ddydd Iau, Rhagfyr 7fed].
Unawd Cerdd Dant Oedran Cynradd – 1af Alwena Owen, Llanllwni a 3ydd Cerys Angharad, Pencarreg
Grŵp Llefaru Oedran Cynradd – 3ydd Adran Llambed
Unawd Telyn Bl. 6 ac Iau – 1af Cerys Angharad, Pencarreg
Unawd Alaw Werin Oedran Cynradd – 1af Ela Mablen Griffiths-Jones, Cwrtnewydd
Deuawd Cerdd Dant Bl. 7 – 11 – 3ydd Beca ac Elan, Cwmann
Unawd Alaw Werin dros 21 oed – 3ydd Menna Dafydd, Alltyblaca
Grŵp Llefaru Oedran Uwchradd, Coleg neu Agored – 1af Sarn Helen
Llongyfarchiadau i bawb.