‘It’s a Knockout’ Llanybydder

gan Siona Evans

 Ar Ddydd Sul Mai y 28ain, gwnaeth Pwyllgor Pentref Llanybydder gynnal diwrnod ‘It’s a Knockout’. Yr oedd yn ddiwrnod llwyddianus iawn efo sawl gêm wahanol i brofi’r unigolion.

 

 Yr oedd y diwrnod wedi cael ei gynnal i godi arian tuag at Ysgol Meithrin Llanybydder a Chanolfan Deuluol Llanybydder. Hefyd i gael meinciau picnic i’r parc lleol.

 Diolch i bawb wnaeth gymryd rhan a gwneud y diwrnod yn un llwyddianus. Hefyd da iawn i’r tîm buddugol ‘Last Minute.com’ sef Andrew Williams, Mark Jones, Dai Jones ac Charlie Girard. Da iawn chi.