Dydd Sadwrn diwethaf, lawnsiwyd Totally Locally Llambed ar Sgwâr Harford, ond beth yn gwmws yw e?
Menter newydd yw Totally Locally Llambed sydd yn annog siopa lleol ymysg trigolion yr ardal, gyda’r buddsoddiad cyson yn sicrhau datblygiad yr ardal trwy greu swyddi ystyrlon, mwy o gyfleoedd i’n plant, mwy o gyd-ddibyniaeth rhwng busnesau lleol bach a mawr, a llai o ddibyniaeth ar fusnesau rhyngwladol sydd yn llyncu arian yr economi lleol a’i symud allan o’r ardal.
Mae’r fenter yn cael ei rhedeg yn wirfoddol ac yn annibynnol ond mae wedi ei chynorthwyo gan Siambr Fasnach Llanbedr Pont Steffan, ac wedi denu cefnogaeth Cyngor y Dref a ‘Transition Llambed Development Trust’ hefyd.
Pe byddai pob oedolyn yn ardal Llanbed yn gwario ’mond £5 ychwanegol i’r arfer yn siopau’r dref yn wythnosol yn lle yn yr archfarchnad neu ar y we, byddai’r buddsoddiad yn werth £4.8 miliwn dros blwyddyn o wario. Hefyd, os ydych yn cefnogi masnachwr lleol, yn ôl gwybodaeth Totally Locally, mae’r masnachwr hwnnw yn debyg o wario gwerth arian tebyg yn lleol hefyd, tra’n darparu ei wasanaethau.
Menter cyntaf Totally Locally Llambed yw’r ‘FiverFest’, sydd yn rhedeg am bythefnos tan y 29ain o Orffennaf, ble mae nifer o siopau annibynnol Llanbed wedi creu cynigion arbennig am ’mond £5.00 i ddenu trigolion yr ardal mewn i’w siopau nhw i wario’r pump punt ychwanegol yna – £5 wythnosol a fydd yn gwneud cymaint o wahaniaeth i’r economi lleol.
Er ein bod ni’n dod at ddiwedd y FiverFest, mae’n debyg bod siopwyr lleol wedi joio defnyddio masnachwyr annibynnol y dref, ac mae’r adborth hyd yn hyn wedi bod yn bositif.
Bydd Totally Locally yn dal i gynorthwyo siopau’r dref, gyda hwb marchnata newydd mewn mis neu ddau a fydd yn annog cydweithio rhwng busnesau lleol i gefnogi ei gilydd fel rhan o economi lleol.
Mae pawb yn gytûn mai ar y strydoedd mae calon bob tref, ac mae lawnsiad Totally Locally Llambed bron i bythefnos nôl wedi llwyddo i atgoffa trigolion ardal Llanbedr Pont Steffan mai trwy siopa lleol mae cefnogi tref a’i thrigolion, a chadarnhau calon cymuned.