Parhaodd blwyddyn y clwb ym mis Tachwedd gyda chwis y pwyllgorau lleol ar y 4ydd. Braf oedd gweld nifer o fudiadau lleol eleni eto yn cefnogi’r clwb ac yn cystadlu’n frwd. Tîm y clwb ddaeth i’r brig ar y noson, ac hoffem estyn gair o ddiolch i gwis feistri’r noson sef Owain a Llion. Ar y 25ain o Dachwedd cafwyd noson hwyus o bingo yng nghanolfan y pentref, gan godi £187 tuag at goffrau’r clwb. Diolch i bawb a ddaeth i gefnogi ac i bawb a waeth y noson yn llwyddiant. Y diwrnod canlynol, gwnaeth Elan a Daniel deithio i Nantgaredig i gystadleuaeth siarad cyhoeddus Saesneg y Sir dan 16 oed. Cafwyd bore llwyddiannus, gyda’r tîm yn dod yn ail, ac Elan yn cael ei dewis i fynd ymlaen i gynrychioli’r Sir ar lefel Cymru fel cadeiryddes.
Ar y 7fed o Ragfyr cyhalwyd cwis y Sir yng Nghaerfyrddin, gyda’r tîm yn cynnwys Carys, Rhian, Gwawr ac Iestyn yn dod yn ail agos allan o 20 o dimau. Codwyd swm swmpus o arian, £545 ar noson o Ganu Carolau o amgylch yr ardal ar y 14eg. Er bod y tywydd wedi troi yn ddiflas erbyn y diwedd, roedd yn noson llawn hwyl a chanu da! Rhaid diolch i bawb a wnaeth roi yn hael, ac i Dylan a’r teulu, ein Llywydd eleni, am y porthiant ar ddiwedd y noson. Mynychodd nifer o aelodau hŷn y clwb ddawns y Llysgenhadon yn Abertawe ar yr 20fed, er mwyn cefnogi ei caderyddes, Carys, sy’n ddirprwy Lysgenhades. Cafwyd noson hwyr, ond gwerth chweil! Ar y 29ain cafwyd parti Nadolig yng Nghlwb Rygbi Llambed, gyda nifer o gyn aelodau a ffrindiau’r clwb yn ymuno â’r aelodau presenol i ddathlu’r ŵyl. Diolch i’r Clwb Rygbi am y croeso a’r bwyd blasus.
I ddechrau’r flwyddyn newydd aethom ar daith i Barc y Scarlets i wylio gêm rhwng y Scarlets ac Ulster. Er yn nosweth wlyb, daeth nifer o aelodau allan i gefnogi’r Scarlets a braf oedd gweld buddugoliaeth i ddechrau’r flwyddyn. Yna cafwyd seiat holi ar yr 20fed wedi ei drefnu gan ein Llywydd. Da oedd gweld aelodau ifanc yn clwb yn barod i ofyn cwestiynau difrifol a doniol i’n panelwyr, Owain Felindre, Angharad Lan Llofft ac Ioan Dolgwm, y tri yn gyn aelodau llwyddiannus o’r clwb. Diolch iddynt am rhannu eu barn ar nifer o bynciau llosg ac am eu digrifwch ar y noson. I orffen y mis, gwnaeth tîm hŷn ac iau gystadlu yng nghystadleuaeth siarad cyhoeddus Cymraeg y Sir ar yr 28ain yn Nantgaredig. Daeth y tîm hŷn, Carys, Sian Elin ac Iestyn yn gydradd 5ed, a’r tîm iau, Elan, Daniel a Beca hefyd yn 5ed, gydag Elan yn cael ei dewis i fod wrth gefn i dîm y Sir yng nghystadleuaeth Cymru.
Cafwyd mis Chwefror prysur gan ymarfer a pherfformio yng nghystadleuaeth hanner awr adloniant y Sir yn Neuadd San Pedr, Caerfyrddin ar y 24ain o’r mis. Cafwyd perfformiad gwych gan holl aelodau’r clwb, a rhaid llongyfarch yr aelodau hŷn a’r arweinyddion am ysgrifennu’r sgript. Daeth llwyddiant ar y nosweth, gan i Sian Elin ennill perfformwraig gorau dan 26ain. Ar y nosweth datgelwyd bod ein cadeiryddes, Carys, wedi ei dyfarnu yn aelod hŷn y flwyddyn dros Sir Gâr. Tipyn o gamp i’n ‘dwy disglair’, llongyfarchiadau gwresog iddynt.
Ar yr 2il o Fawrth, perfformiodd yr aelodau eto yn noson Swper Gawl y clwb yn Neuadd Ysgol Carreg Hirfaen. Braf oedd gweld nifer o’r pwyllgor ymghynhori wedi dod i weld y perfformiad a chael cawl a reis blasus yn ein dathliad Gŵyl Dewi blynyddol. Diolch i bawb am ddod, ac yn enwedig i Delyth a theulu Ffosyffin am baratoi’r bwyd, a’r Ysgol hefyd am defnydd o’r Neuadd.
Yna y penwythnos canlynol, roedd Carys yn cynrychioli’r Sir yng nghystadleuaeth aelod y flwyddyn Cymru lawr ym Mhort Talbot. Daeth hi i’r brig unwaith eto, dros Gymru y tro hwn! Llongyfarchiadau enfawr iddi, cydnabyddiaeth am yr holl waith caled mae’n ei weud ar lefel clwb, Sir ac yn Genedlaethol hefyd. Fydd tipyn o waith sgleinio ar yr holl gwpanau!
Bydd Carys yn mynd ymlaen i gynrychioli Cymru yng nghyfarfod blynyddol NFYFC yn Torquay yn mis Mai, ynghyd â chwblhau taith feicio swyddogion y Sir o gwmpas holl glybiau Sir Gâr.