Neilltuwyd dwy dudalen lawn yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc i fudiadau ac unigolion lleol a gyflwynodd sieciau i achosion da ac elusennau’n ddiweddar.
Er bod gan y Cardis dipyn o enw am fod yn ofalus â’u harian, mae haelioni pobl ardal Clonc yn nodweddiadol iawn. Mae’n siŵr y byddem yn gallu datgan ein bod yn bobl mwyaf hael yn y Deyrnas Unedig, petaem yn gallu darganfod faint o arian y pen o’r boblogaeth a godir gennym.
Yn y rhifyn cyfredol o Bapur Bro Clonc ceir tystiolaeth mewn lluniau o dros ugain mil o bunnoedd a drosglwyddwyd i achosion da mewn cyfnod byr.
-
Codwyd £1,000 i Sefydliad Aren Cymru gan Bwyllgor Pentref Cwmann yn Ffair Ram y llynedd a’r daith dractorau ar y diwrnod.
-
Cyflwynodd Wendy Evans, ar ran Neuadd yr Hafod, Gorsgoch siec i Uned Urology Ysbyty Glangwili. Codwyd £170.25 yn y raffl yn ystod y noson Gŵyl Ddewi y llynedd.
-
Prif elusen Sioe Gorsgoch a C.Ff.I. Llanwenog 2016 oedd Uned Niwroleg Ysbyty Treforys, a chyflwynwyd siec o £3,500 iddyn nhw er mwyn prynu offer asesu. Hefyd, cyflwynwyd sieciau o £500 yr un i Neuadd yr Hafod, Gorsgoch, a C.Ff.I. Llanwenog.
-
Trosglwyddwyd siec o £1,750.00 gan Aelodau Lleisiau Bro Eirwyn i Gaitree Teeluck, Senior Sister; Stephanie, Enrolled Nurse a Denise, Unit Clerk o Uned y Llygaid, Ysbyty Glangwili, Caerfyrddin.
-
Cyflwynodd Carwyn Edwards, Non Edwards, Adele Roberts, Heulwen Roberts, Carwyn Davies siec o £8,377.25 i fydwragedd ward mamolaeth Dinefwr, Ysbyty Glangwili. Mae’r cyfanswm yn gyfuniad o arian a godwyd o hanner marathon Pumsaint, arian a godwyd gan Carwyn a Non a chyfraniadau wrth deulu, ffrindiau, sefydliadau a busnesau lleol. Bydd yr arian a godwyd yn mynd tuag at ystafell benodol i ddelio gyda galar.
-
Trosglwyddodd C.Ff.I. Llanllwni cyfanswm o £3,380.71, sef yr holl arian a godwyd yn 2016 i elusennau gwahanol. Roedd yr holl waith caled wedi talu ffordd wrth gyflwyno £1,197.58 i Prostate Cymru yn dilyn y canu carolau; £2,081.93 i Ambiwlans Awyr Cymru sef y swm a godwyd yn y sioe a threialon cŵn defaid blynyddol; a £101.20 i’r clwb sef casgliad y cwrdd diolchgarwch blynyddol.
-
Bu pedwar o aelodau Urdd Llambed – Sara Jones; Ifan Meredith; Beca Jones a Sara Elan Jones – yn cyflwyno siec i gronfa Cymorth Cristnogol Ffoi i’r Aifft am £247.00 sef casgliad oedfa Sul yr Urdd a gynhaliwyd yng Nghapel Shiloh yn ddiweddar.
-
Derbyniwyd hwb i gronfa pwyllgor yr elusen amaethyddol R.A.B.I Sir Gâr, wrth i Gymdeithas Hen Beiriannau Gorllewin Cymru gyflwyno siec am £1,000 i’r pwyllgor.
-
Mae merch ysgol 16 oed o Lambed wedi bod yn brysur yn codi arian ar gyfer Macmillan ers i’w mam ddarganfod bod cancr y fron arni. Perswadiodd Tanwen Owen o Victoria Terrace, Llambed wyth o’i ffrindiau i gymryd rhan mewn ras bwdlyd 5km ym Mharc Singleton, Abertawe yn ystod yr haf, yn ogystal â chynnal bore coffi, er mwyn codi £1,500.
-
Cyflwynodd yr Archddeacon Dr William Strange elw cyngerdd Nadolig Eglwys Sant Iago, Cwmann sef £762 i Pat Jones ar ran Ysgol Sant Iago, Lesotho i brynu ieir a hadau ar ôl y newyn. Rhwng y gyngerdd yn yr eglwys a bore coffi yn Llambed casglwyd £1,500 tuag at yr achos.
Ymdrech arbennig felly gan bawb yn lleol, ac ewyllys da dal yn gryf yn yr ardal. Daliwch ati a chofiwch ddanfod eich lluniau ar gyfer rhifyn nesaf y papur bro.