Er bod dod o hyd i amser i ymarfer yn her, mae gweld perfformiad yn dod at ei gilydd ar lwyfan yn brofiad heb ei ail i’r ferch sy’n wreiddiol o Gwrtnewydd.
Bu Meleri Williams yn rhan o berfformiad Panto Pantycelyn yn neuadd Felin-fach nos Fawrth, Ebrill 11, oedd yn clymu pynciau am Brexit, Donald Trump a’r emynydd William Williams Pantycelyn.
“Gawson ni ddim llawer o ymarferion, ond roedd e’n wych i weld y cyfan yn dod at ei gilydd,” meddai Meleri Williams gan ddweud ei bod yn mynd â’i mab, Gwern, i’r ymarferion gyda hi.
Cafodd y pantomeim ei ysgrifennu gan Euros Lewis ac yn gyfanwaith rhwng Theatr Gydweithredol Troedyrhiw a Chwmni Garnfach.
Ac yn ôl Meleri Williams, mae’n bwysig cofio cyfraniad yr emynydd gafodd ei eni tri chan mlynedd yn ôl yn 1717 am fod geiriau’r emynau yr un mor addas heddiw.
Cynnal cymunedau
Fe wnaeth y criw berfformio’r pantomeim fel rhan o wythnos fawr y Pasg, ac yn ôl Meleri Williams, mae’n bwysig cynnal perfformiadau’n gyson drwy gydol y flwyddyn.
“Mae’n bwysig i wneud y pethau yma’n lleol, mae mor hawdd i bobol fynd i’r sinema neu i’r siopau a phethau eraill – ond pethau fel hyn sy’n bwysig i gadw cymunedau’n fyw,” meddai.
Dod i ’nabod Pantycelyn
Actorion eraill y pantomeim oedd Pete Ebbsworth, Trystan Fron, Rhodri ap Hywel, Dafydd Hughes, Sam Jones, Carys Mai, Sian Thomas, Rhydian Wilson a Lowri Fron.
Ac esboniodd Lowri Fron mai bwriad y pantomeim oedd ceisio “dod i ’nabod Williams Pantycelyn fel y dyn ei hun.”
“Yn lle bod pobol oedd yn bodoli 300 mlynedd yn ôl yn cael eu gosod ar bedestal, ni’n trio dod i adnabod y dyn ei hunan ac yn plethu materion am Brexit a Trump i mewn i’r peth,” meddai.
“Ni wedi trio rhoi agwedd mwy cyfoes ar rai o’i emynau, naill ai eu rhoi ar donau mwy cyfoes neu jazzo nhw lan gan ddangos bod y geiriau dal yn berthnasol heddiw,” ychwanegodd.