Pencarreg a Chwrtnewydd yn ysbrydoli nofel

Gohebydd Golwg360
gan Ohebydd Golwg360

Angen mwy o nofelau am gefn gwlad, yn ôl Heiddwen Tomos

Dwy o ardaloedd Clonc sydd wedi ysbrydoli nofel gyntaf yr awdures, Heiddwen Tomos.

Mae’r ferch o Gwrtnewydd sy’n gyn aelod o Glwb Ffermwyr Ifanc Llanwenog bellach yn byw gyda’i gŵr a’u plant, Gruff, Swyn a Tirion ym Mhencarreg.

Dŵr yn yr Afon yw nofel gyntaf Heiddwen Tomos, ac fe fydd yn ei lansio yn Neuadd yr Hafod Gorsgoch, lled cae o’i chartref gwreiddiol, a hynny ar y 5ed o Fai am 7 o’r gloch.

Yr ardal honno sydd wedi’i hysbrydoli, meddai, gan ddweud fod angen mwy o nofelau am gefn gwlad i godi llais yr ardaloedd hynny.

“Dw i’n ddigon ffodus i fyw ynghanol cae gyda dim ond y defaid, y da a’r teulu yng nghyfraith yn gwmni,” meddai gan esbonio fod y nofel yn “dywyll” ar adegau.

“Ond efallai mai fel yna y mae cefn gwlad ar ei waethaf. Ar ei orau mae cefn gwlad wrth gwrs yn lle cynnes a hapus.”

Nofel ‘mentrus’

Mae Dŵr yn yr Afon yn dilyn hynt a helynt tad a mab, Morgan a Rhys, wrth iddyn gynnal deupen llinyn y fferm deuluol ynghyd – ond mae llais o’r gorffennol yn ffrwtian yn y cefndir.

Enillodd Heiddwen Tomos wobr stori fer cylchgrawn Taliesin a BBC Radio Cymru yn 2015 ac fe ddaeth yn ail am y Fedal Ddrama yn Eisteddfod Genedlaethol Sir Gâr 2014 – ac mae wedi cipio dwy o gadeiriau Eisteddfod Clwb Ffermwyr Ifanc Ceredigion.

Heiddwen Tomos ydy pennaeth Celfyddydau Mynegiannol a Drama Ysgol Bro Teifi, ac esboniodd mai disgyblion y chweched dosbarth wnaeth ei helpu i ddewis y clawr.

“Mae’n nofel eithaf mentrus, hon yw fy nofel gyntaf, a dw i’n gobeithio y bydd hi’n cydio yn y dychymyg,” meddai.