Plant Mewn Angen 2017

gan Arwel Jones

Ar ddydd Gwener 17eg Tachwedd bu staff a chwsmeriaid Canolfan Hamdden Llambed yn cymryd rhan mewn ‘Spinathon’ 12 awr i godi arian tuag at Plant Mewn Anegn.

Bu olwynion y ddau feic yn troi trwy gydol y dydd gyda nifer o unigolion o’r cynllun ‘Atgyfeirio Meddygol’ yn Nhregaron a Llambed yn cymryd rhan.

Llwyddwyd i feicio 329 milltir (8 yn fwy na 2016!) yn ystod y dydd a chodi £250 tuag at Plant Mewn Angen.

Diolch i bawb a fu’n cymryd rhan ac yn cefnogi – edrychwn ymlaen at feicio ymhellach eto yn 2018! Gweler rhai lluniau isod o’r beicwyr.