Mae Geraint a Kim Williams o fferm Tynllyn, Llanwnnen wedi torri record newydd i frîd y Belgium Blue wrth werthu tarw ym marchnad Carlisle am 24,000gns yr wythnos diwethaf.
Cyn hynny, 21,000gns oedd y pris uchaf am darw Belgium Blue ac fe gafodd ei osod gan ffermwr o ogledd Cymru yn 2004.
Ond ym marchnad Harrison and Hetherington yn Carlisle ddydd Sadwrn (Mai 20) llwyddodd Geraint Williams i dorri’r record hwnnw gyda’i darw dwyflwydd oed, Dragon Blues Kai.
“Roedd e’n brofiad eithaf nerve wrecking, ond o’n i’n falch ofnadwy,” meddai Geraint Williams.
Roedd yn gwerthu saith o greaduriaid i gyd yn ystod y farchnad, a llwyddodd i werthu brawd llawn i’r tarw â’r pris uchaf am 12,000gns ynghyd ag un arall 27 mis oed am 11,800gns.
“Mae lot o amser yn mynd i’w paratoi nhw, mae tua thair blynedd i gyd erbyn inni roi’r embryos i mewn a’u magu,” meddai.
“Bydd blwyddyn yn mynd heibio nawr tan y gallwn ni werthu eto, ond mae’n grêt i gael prisiau fel hyn.”