Sally Davies a’i phersonoliaeth hael a chymwynasgar

Dylan Lewis
gan Dylan Lewis
Sally Davies
Sally Davies

Cofia llawer ohonom am Mrs Davies fel athrawes goginio yn Ysgol Gyfun Llanbedr Pont Steffan slawer dydd, ond mae Delyth Morgans Phillips wedi ysgrifennu amdani yn rhifyn Chwefror Papur Bro Clonc  yn y golofn ‘Cymeriadau Bro’.

Gallwn ddysgu llawer mwy amdani yn y golofn; o’i gwaith gwirfoddol a’i hoffter o deithio a chathod.  Cawn ein tywys gan Delyth o gartref y teulu yn Nhynrhos, Betws Bledrws, i gartref Sally ac Eifion ei gŵr yng Nghwmann.

Deallwn hefyd am farwolaeth ei chyn ŵr a fu farw o Leukemia.  Portread hyfryd o wraig weithgar iawn.

Mynnwch eich copi chi o Bapur Bro Clonc, er mwyn dod i adnabod Sally hyd yn oed yn well.