Treialon Cŵn Defaid a Sioe Cwmsychpant 2017
Cynhaliwyd Treialon Cŵn Defaid a Sioe Flynyddol Cwmsychpant a’r Cylch ar gaeau Waun, Rhydowen ar ddydd Sadwrn, Awst y 12fed trwy garedigrwydd Mrs. Ella a Mr. Vernon Davies.
Cafwyd diwrnod llwyddiannus iawn eto eleni, ac roedd yr elw yn mynd tuag at Feiciau Gwaed Cymru. Rhannwyd neges gan gynrychiolydd o’r elusen yn sôn am waith arbennig y gwirfoddolwyr ar draws y wlad.
Dechreuodd diwrnod y sioe yn gynnar gyda’r treialon a bu’r cŵn defaid yn rhedeg o’r bore bach tan yr hwyr gyda chystadleuwyr o nifer o wledydd tu hwnt i Gymru. Unwaith eto eleni roedd y babell yn orlawn o gynnyrch amrywiol ac roedd y cyfan o safon uchel. Daeth cystadleuwyr o bell ac agos i gystadlu. Cynhaliwyd mabolgampau i’r plant hefyd yn y bore a gwnaeth nifer ennill rhubanau. Cafwyd arddangosfa o hen beiriannau hefyd a oedd yn werth i’w gweld.
Ein llywydd eleni oedd Mr. Gwynfor Lewis, Bronwydd, Heol-y-Bont, Llambed neu Gwynfor W.D. Lewis fel yr adnabyddir ef yn lleol. Mae’r teulu wedi bod yn gefnogol i’r sioe dros y blynyddoedd a braf iawn oedd cael ei gwmni ef a’i deulu yn ystod y dydd. Diolch yn fawr iawn iddo am ei rodd hael i’r coffrau.
Ar ddiwedd y prynhawn cynhaliwyd ein gwerthiant blynyddol o gynnyrch y babell a gyfrannwyd gan y cystadleuwyr, gyda dau o blant y Cwm wrth y llyw sef Sion Jenkins a Dewi Jones. Unwaith yn rhagor bu’n arwerthiant llwyddiannus a chodwyd arian sylweddol i’r elusen o ganlyniad i haelioni’r cyfrannwyr.
I gloi diwrnod llwyddiannus arall, cafwyd adloniant yng nghwmni’r grŵp lleol a phoblogaidd sef Newshan. Unwaith eto eleni cynhaliwyd sesiwn ganu i’r plant yn gyntaf ac yna am y drydedd flwyddyn, cystadleuaeth “Taclo’r Tasgau” i dimau o bedwar aelod. Cafwyd llawer o hwyl gyda’r cefnogwyr yn gweiddi a chefnogi eu timoedd. Enillwyr y tasgau eleni oedd “Tim C.Ff.I. Llanwenog” sef Steffan Jenkins, Carwyn Davies, Meinir Davies a Sioned Davies. Llongyfarchiadau mawr iddynt. Gorffennwyd y noson yng nghmwni Newshan a chafwyd canu da a dawnsio hyd oriau mân y bore.
Dyma restr o enillwyr y dydd:
Gwinoedd Megan Richards, Aberaeron
Cyffeithiau Sirian Davies, Cwrtnewydd
Coginio Wendy Davies, Penffordd
Gwaith Llaw Ceinwen Evans, Talgarreg
Crefft Carwyn Davies, Penffordd
Ffyn Keith Allan, Carwe, Llanelli
Ffotograffiaeth Eleri Jenkins, Llanbedr Pont Steffan
Arlunio Plant
Bl. 2 ac o dan Aaron Jac Lewis, Ysgol Cwrtnewydd
Bl. 3 a 4 Megan Davies, Ysgol Cwrtnewydd
Bl. 5 a 6 Katy Moyes, Ysgol Cwrtnewydd
Adran Plant
Dan 8 Glesni Rees, Penffordd
9 ac o dan 12 Elen Morgan, Drefach
12 ac o dan 17 Carys Evans, Talgarreg
Adran Blodau Andrew Davies, Llandysul
Celfyddyd Blodau Erika Davies, Llanwnnen
Cynnyrch Gardd Elliw Grug Davies, Drefach
Adran Geffylau
Pencampwr yr Adran Geffylau Alis Evans, Talgarreg
Pencamwr yr Adran Geffylau i Blant Cadi Evans, Talgarreg
Adran Ddefaid
Pencampwr Croesfrid Gareth Evans, Blaencwrt
Taleb gwerth £25 Elfyn Morgans, Gorsgoch
Hen Beiriannau Iwan Evans, Bwlch-y-fadfa
Dymuna pwyllgor Treialon Cŵn Defaid a Sioe Cwmsychpant ddiolch yn fawr iawn i’r beirniaid, y stiwardiaid, y noddwyr a phawb arall am bob cyfraniad a chymorth a dderbyniwyd er mwyn sicrhau sioe lwyddianus.