Sioe Gorsgoch a C.Ff.I. Llanwenog 2017

gan Cerys Lloyd
Enillwyr Sioe Gorsgoch a C.Ff.I. Llanwenog 2017      Llun: Sophie Mai Jones

Cynhaliwyd 37fed Sioe Amaethyddol, Cynnyrch, Ceffylau a Hen Beiriannau Gorsgoch a C.Ff.I. Llanwenog ar gaeau Glwydwern, Llanwnnen, trwy garedigrwydd Elfyn a Sharon Morgans ar ddydd Sadwrn, 19eg o Awst. Prif elusen y sioe eleni oedd Beiciau Gwaed Cymru.

Ynghyd â’r cystadlaethau yn y babell ac ar y cae, cafwyd arddangosfa sgiliau cŵn, coetio, mabolgampau i blant, cynnyrch alpaca gan ‘Bird Farm Alpacas’, Arts for Wellbeing, paentio wynebau ac ocsiwn lwyddiannus yng ngofal Eifion Morgans. Yna, cafwyd chwip o noson dda gyda’r ‘Welsh Whisperer’, castell neidio a tharw troelli. Da iawn Richard Pantdefaid am ddofi’r tarw!

Er mawr foddhad i aelodau’r pwyllgor a chefnogwyr y sioe, cafwyd ysbeidiau heulog a sioe lwyddiannus iawn o ran niferoedd a safon y cystadlu. Cyflwynwyd y gwobrau gan y Llywyddion, Mr a Mrs Paul Jones, Tŷ Newydd, Maesycrugiau, i’r canlynol:

CEFFYLAU: Ceffylau mewn llaw – Pencampwr – Dai Evans, Clogfryn, Aberaeron (Trehewyd Gwenfron). Is-bencampwr – Evan Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd (Parc y Bedw Diamond); Marchogaeth – Pencampwr – Tyler Hoyland, Cwm Tawel, Bangor Teifi (Friarly Grojus Porjus). Is-bencampwr – Rhiannon Evans, Bro Gernos, Coedybryn (Beros St. George); Hynodion y Ceffylau – Charlotte Clark, The Old Mill, Talgarreg; Pencampwr yr adran geffylau, ac yn derbyn cwpan Hang-On yn roddedig er cof am Tim a Dorothy Thomas, Ffynon Rhys – Dai Evans, Clogfryn, Aberaeron gyda Trehewyd Gwenfron

DEFAID: Defaid Llanwenog – Pencampwr – Huw Evans, Alltgoch (hwrdd). Is-bencampwr – Gareth a Wendy Evans, Parcyrhos (dafad). Gwobr Cymdeithas Defaid Llanwenog – Huw Evans, Alltgoch (hwrdd). Defaid Speckled – Pencampwr – Jones, Blaenblodau (dafad). Is-bencampwr – Teulu Morgans, Glwydwern. Defaid Continental – Pencampwr – Jones, Blaenblodau (dafad). Is-bencampwr – Huw Evans, Alltgoch (hwrdd). Unrhyw frîd “Lowland” arall – Pencampwr ac Is-bencampwr – Teulu Morgans, Glwydwern (hwrdd Suffolk a dafad croes). Unrhyw frîd mynyddig arall – Pencampwr – Price, Gelliwrol, Cwmann. Is-bencampwr – Crimes, Gafryw, Mydroilyn. Oen i’r cigydd – Pencampwr ac Is-bencampwr – Owain Jones, Blaenhirbant, Cwmsychpant. Pencampwr y Pencampwyr yr adran ddefaid, ac yn ennill cwpan her Wyn Morgans, Glwydwern – Huw Evans, Alltgoch. Arddangosydd gorau – Ifan Evans, Dolgerdd, Talgarreg. Barnu Wyn Tew C.Ff.I – Beca Jenkins, Hafan y Cwm, Cwmsychpant.

HEN BEIRIANNAU: Pencampwr, ac yn ennill cwpan her Jim Evans, Fronwen – Geraint Rees, Maes y Celyn, Llanllwni.

GWARTHEG BIFF: Pencampwr – Jones a Davies, Penhill, Penrhiwllan (buwch gyda llo benyw). Is-bencampwr – Morgans, Glwydwern, Llanwnnen (buwch gyda llo gwryw).

GWARTHEG GODRO: Pencampwr – Andrew Davies, Abertegan, Brynteg (buwch mewn llaeth). Is-bencampwr – Teulu Williams, Clyncoch, Cwrtnewydd (treisiad mewn llaeth). Enillydd y fuwch neu treisiad odro orau o fuches di-linach, ac yn derbyn Cwpan Her Ffynnonrhys – Cennydd Jones, Rhydowen, Pontsian.

Y BABELL: Cynnyrch Gardd – Emyr Jones, Awelon, Drefach; Coginio – Sharon Morgans, Glwydwern gynt; Gwinoedd – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd; Cyffaith – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd; Gwaith Llaw – Ceinwen Evans, Rhydsais, Talgarreg; Blodau – Andrew Davies, Llandysul; Cystadlaethau 18 oed neu iau – Meryl Evans, Rhydsais, Talgarreg; Cystadlaethau 26 oed neu iau – Elin Haf Jones, Tŷ Newydd, Maesycrugiau; Adran Plant Ysgol Gynradd: Blwyddyn 6 neu iau – Elan Jenkins, Ceulan, Maestir; Blwyddyn 2 neu iau – Aron Jac, Gafryw; Ysgol â’r marciau uchaf yn yr adran arlunio, ac yn ennill tarian her Cyngor Cymuned Llanwenog – Ysgol Llanwenog; Cwpan Her Blaencathal, am focs o gynnyrch gardd – Emyr Jones, Awelon, Drefach; Pencampwr y babell, ac yn ennill cwpan her Malcolm Fuller – Margaret Jones, Cae Glas, Cwrtnewydd.

Hoffai pwyllgor y sioe ddiolch i bawb am eu cefnogaeth ac edrychwn ymlaen at groesawu pawb yn ôl i’r sioe y flwyddyn nesaf ar ddydd Sadwrn 18fed o Awst 2018.

Gellir gweld mwy o luniau Sioe 2017 ar dudalen Facebook y Sioe yma