Prif nod Clwb Cerdded Plwyf Pencarreg yw cerdded gwahanol lwybrau’r Plwyf, ond eleni buom yn cerdded at, ac edrych ar hen hanes drwy groesi Afon Teifi i Sir Aberteifi. Ein bwriad felly oedd edrych a gweld ble safai “Pont Hamilton”. Cawsom ein harwain gan gymwynaswr mawr i gymdeithas Cwmann a Phlwyf Pencarreg ym mherson Eric Williams, Y Fedw.
Cerdded lawr drwy dir yr Hen Sgweier Syr Herbert Lloyd Ffynnon Bedr a thrwy Gae Sion Philip yr hwn a gollodd ei fywyd drwy dwyll Y Sgweier yn ôl hanes, am fraster dolydd y Teifi. Beth â’m synodd yn fawr yw pa mor droellog yw Afon Teifi, er hynny roedd y cerdded yn rhwydd a’r cwmni yn hwylus wrth weld aberoedd nentydd Eiddig a’r Hor.
Ymhen amser, cyrraedd “Pont Hamilton” yn ôl map Ordinans 1906 neu Pont Droed {Foot Bridge} yn ôl map Ordinans 1891 oedd yn pontio Afon Teifi rhwng tir Dolgwm Isaf a Dolaugwyrddion Isaf. Yn anffodus dim ond pileri cerrig sydd yn aros, a llifogydd y Teifi yn tanseilio ychydig o’r pileri ar ochr Sir Gâr.
Gwyddom fod Rhys ap Owen yn berchen Dolgwm Isaf tua’r flwyddyn 1500 ond erbyn 1725 ym mherchnogaeth Teulu Vaughan o Jordanston Sir Benfro. Wedi dyddiau Vaughan daeth i law Syr James Cockburn oedd yn berchen ac yn byw mewn fferm cyfagos sef Cefnbryn. Priododd merch Syr James sef Marianna Augusta a Syr James Hamilton, Bart a dyna enedigaeth “Pont Hamilton”. Rhoddodd y wraig yn helaeth i’r plwyf ac i eglwys Sant Padryg Pencarreg. Yn ôl hanes, pont gul ydoedd er bod eu hyd lled afon Teifi a thybiaf ei bod wedi ei hadeiladu rhwng 1866 a 1870 gan fod deunydd y pileri yn debyg i bontydd y rheilffordd a adeiladwyd ychydig flynyddoedd ynghynt. Tybiwn hefyd fod y bont wedi hadeiladu er mwyn osgoi cerdded o amgylch Llanybydder, gan fod fferm Dolgwm Isaf a thiroedd ar draws y Teifi yn Sir Aberteifi.
Dod i gof stori gan Bethan Phillips yn llyfr “Peterwell” am “Von” Dolgwm yn herio Sir Herbert Lloyd am dreio dwyn fferm fechan Felinsych Pencarreg a oedd mewn perchnogaeth preifat.
Wedi cael lluniau o’r gorffennol, troi oddi wrth Afon Teifi am ffermydd Dolaugwyrddion Isaf ac Uchaf a chyrraedd prif-ffordd Llanbed i Gastell Newydd Emlyn, troi i’r chwith am rhyw bump-can llath trwy bentref Pentre-Bach a phasio hen Eglwys Sant Ioan. Lan am fferm-dy Pentre Sion a cherdded dros y banc am fferm Ty-Llwyd a Heol Maestir. Colli peth o fraster y Nadolig. Da gweld hefyd bod ffermydd yn ardal Llanbed yn parhau i odro. Cerdded lawr heibio hen Glwb Golff Ffynnon Bedr, ac Eric yn dangos ble oedd twll cyntaf y cwrs. Erbyn hyn roeddem yng ngolwg mwg ein cartrefi yn Sir Gâr.
Diwrnod i’w drysori am hanes, ac eto heb fod dwy filltir o Lanbed a deugain llath o Blwyf Pencarreg.