Taith Coedwig Gymunedol Longwood

gan Alun Jones

Daeth y syniad i wneud taith yn Longwood neu y Goedwig Hir yn Hydref y llynedd tra yn canu ar ddiwrnod agored, gan ganolbwyntio ar goed.  Cofio am benillion o’r gân Y Goedwig Werdd, cyfieithad Cymraeg gan John Stoddart:

“Utgorn yr heliwr a’i nodau’n llawn hyder
Persain yr atsain o’m cwmpas mor glaer.”

Ac felly oedd hi ar Sadwrn cyntaf mis Mehefin. Teithio drwy ardal ffrwythlon sydd yn cynhyrchu llaeth am Lanfair Clydogau, pentref sydd yn cael ei rannu gyda’r afon Teifi. Disgyn o’r bws ger siop Llanfair a Chapel Mair, a thu draw yr afon mae Eglwys Santes Mair a’r pentref, yno hefyd oedd Plas Llanfair cyn ei ddymchwel yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Mae’r enw Llanfair Clydogau yn dod o’r Eglwys Santes Mair a’r Clydogau o’r tair Nant Clywedog sef Uchaf, Ganol a’r Isaf, ond sydd yn llifo fel un Nant Clywedog i’r Teifi. Yn 1801 poblogaeth y Plwyf oedd 308 ond erbyn 1861 wedi tyfu i 614, yn rhannol am hyn bod cloddio am fwynau fel plwm ac arian drwy ddyffryn Nant Clywedog Ganol, gyda mewnfudwyr o siroedd Derbyshire a Chernyw.

Cerdded am ryw filltir nes cyrraedd Canolfan yr Ymwelwyr a dechrau ein taith drwy’r coed. Mae ‘project’ Coedwig Gymunedol Longwood yn mynd ers 2003 pryd daeth pobl leol oedd â diddordeb mewn coedwigaeth a chadwraeth i gytundeb gyda’r Comisiwn Coedwigaeth i ddiogelu a hyrwyddo gwerth mewn coed. Yna erbyn 2011 roedd y brwdfrydedd yn fawr a gwnaed ceisiadau am arian o sawl ffynnhonell i brynu y Goedwig. Erbyn hyn mae Longwood yn cyfuno hen elltydd Allt Cefn-foel, Nant y Bwch, Goedwig Hir, Allt Ffos-glai, Coed Gwarallt a Choed Olwen.

Wrth gerdded yn hamddenol canolbwyntio a sôn am y rhywogaethau o goed sydd yn tyfu yno, gyda’r rhestr ganlynol yn amlwg iawn. Ffawydden, Dderwen, Bedwen Arian, Llarwydden, Spriwsen, Collen, Onnen, Ysgawen, Helygen Lwyd, Pisgwydden, Castanwydden y Meirch a Ber, Cerdinen, Gwernen, Masarnen a Choed Celyn. Hefyd gwelsom sut mae defnyddio coed i bwrpas, dyma engreifftiau – Ganolfan Ymwelwyr, Llwyfan y Maes, Cerfluniau, Seddau, heb anghofio y ‘Tai Bach’.

Ie mae gan goed iaith a phwrpas yn ein bydysawd:

Derwen =  Dewrder, Ffawydden= Llwyddiant, Rhodederon = Perygl, Onnen = Pwyllog/Doeth, Draenen = Gobaith, Bedwen = Addfwynder.

‘Roedd y daith hon hefyd yn ein cysylltu â’r Oes Haearn gyda Bryngaeriau Celtaidd sydd yn dyddio nôl dau gan-mlynedd Cyn Crist hyd 43 Oed Crist. Cerddasom ar draws Bryngaer Castell Goetre a gweld Castell Allt-goch ac Olwen.

Twr y Dderi
Twr y Dderi

Cerdded drwy ddyfnder y Goedwig o ochor y Teifi i ddyffryn Afon Dulas, a dod i olwg Tŵr y Dderi, ac olion rheilffordd Aberaeron ac Aberystwyth. Cafodd y Tŵr ei gynllunio gan C R Cockerell, yr un Pensaer a wnaeth gynlluno Prif Ysgol Dewi Sant Llanbedr, a chafodd ei adeliadu gan David T Morgan, Llan-ddewi Brefi rhwng 1821 a 1824, ac mae yn 39 medr o uchder. Hefyd gwnaeth y Pensaer gynllunio Plas Derry Ormond yr un adeg, gyda’r un adeiladydd â’r Brifysgol yn gweneud y gwaith, sef John Foster o Fryste, am gost o £6211, ond cael ei luchio i lawr bu hanes y Plas yn 1953.

Diolch am ddiwrnod a chwmni da, taith oedd hon ar gyfer Cymdeithas Edward Llwyd.